Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/07/2019 - Y Cabinet (eitem 11)

11 PARATOI AR GYFER SEFYLLFA ARIANNOL 2020/21 pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn amodol ar y cyfyngiad a nodir yng Nghymal 15 yr adroddiad, er mwyn dygymod gyda’r sefyllfa ariannol 2020/21, bod y Cabinet yn mabwysiadu Opsiwn 3, gan ofyn i adrannau ddarganfod eu siâr nhw o’r isafswm o £2m fydd ei angen i gyfarch yr isafswm o ddiffyg adnoddau ar gyfer chwyddiant y mae'r Cyngor yn debygol o’i wynebu, gan ofyn i’r Pwyllgorau Craffu, graffu cynigion yr adrannau yn yr Hydref.

 

Wrth adrodd dylai adrannau hefyd adrodd ar sut y maent yn bwriadu dygymod gydag unrhyw ddiffyg sydd angen ei gyfarch yn eu cynlluniau arbedion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Yn amodol ar y cyfyngiad a nodir yng Nghymal 15 yr adroddiad, er mwyn dygymod gyda’r sefyllfa ariannol 2020/21, bod y Cabinet yn mabwysiadu Opsiwn 3, gan ofyn i adrannau ddarganfod eu siâr nhw o’r isafswm o £2m fydd ei angen i gyfarch yr isafswm o ddiffyg adnoddau ar gyfer chwyddiant y mae'r Cyngor yn debygol o’i wynebu, gan ofyn i’r Pwyllgorau Craffu graffu cynigion yr adrannau yn yr Hydref.

 

Wrth adrodd dylai adrannau hefyd adrodd ar sut y maent yn bwriadu dygymod gydag unrhyw ddiffyg sydd angen ei gyfarch yn eu cynlluniau arbedion cyfredol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi os bydd goblygiadau gwaethaf sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad yn dod yn wir, y bydd y Cyngor mewn lle pur wael. Mynegwyd fod yr atodiad cyntaf yn nodi’r darlun hanesyddol, gan nodi nad yw’r grant a’r cynnydd treth Cyngor blynyddol wedi bod yn ddigon i dalu am y chwyddiant.  Ychwanegwyd fod y Cyngor wedi arbed £65miliwn dros y ddeuddeg mlynedd diwethaf a llawer ohono drwy arbedion effeithlonrwydd, mynegwyd fod dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd am fynd yn fwyfwy anodd i’r adrannau ddod o hyd iddynt.

 

Nodwyd er mwyn cynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, bod ‘Twmffat Tebygolrwydd’ i’w gweld yn Atodiad 2. Mynegwyd ei bod yn syml mynd am y llinell ganol o ran arbedion, ond ychwanegwyd fod 50% o siawns y bydd y ffigwr yn uwch. Ategwyd os yn cyfri y £2.2m o arbedion sydd wedi ei gynllunio ers y llynedd, ynghyd â chynnydd 3.5% yn y Dreth Cyngor, gall y bwlch ariannol fod rhwng £1.7m a £7.3m. Mynegwyd dros y blynyddoedd diwethaf fod y Cyngor wedi cynllunio ar gyfer y gwaethaf, ond ychwanegwyd fod trefn arbedion y llynedd wedi amlygu fod toriadau eioses yn mynd i gael eu gwneud sydd am fod yn anodd i nifer o wasanaethau ac fe fydd unrhyw doriadau pellach yn anodd dros ben ac yn debygol o ddychryn pobl, boed yn drigolion a staff.

 

Amlygwyd tri opsiwn ar sut i symud ymlaen, a mynegwyd fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid a’r Prif Weithredwr yn argymell y trydydd opsiwn, sydd yn cynllunio i gwrdd â’r bwlch o £1.7m, i’w rowndio i fyny i £2m, yn y sefyllfa ganolig drwy rannu’r swm hwnnw ymysg yr holl adrannau (ac ysgolion), gan nodi mai cyfraniad at chwyddiant yw hyn, ac yna defnyddio balansau a/neu gynnydd uwch yn y Dreth Cyngor i gwrdd â’r bwlch uwchben y sefyllfa ganolrif i roi amser i ddod o hyd i ateb parhaol. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod y sefyllfa yn codi ofn ac yn ddychrynllyd, gan bwysleisio blwyddyn ar ôl blwyddyn fod Aelodau yn gorfod mynd drwy’r drefn arbedion unwaith eto, ac nad oeddynt yn barod i’w wneud eto gan ei fod mor dorcalonnus.

¾     Pwysleisiwyd fod dadl yn amlwg i’w gweld rhwng blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Llundain.

¾     Nodwyd fod cyhoeddiad yn nodi fod codiad cyflog uwch am gael ei roi i Athrawon, sy’n uwch na’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11

Awdur: Dilwyn Williams