8 CRONFA ARLOESI ARFOR PDF 79 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gan fod Cyngor
Gwynedd yn gweithredu fel corff arweiniol i Raglen Arfor gan dargedau adnoddau
Cronfa Arloesi Arfor Llywodraeth Cymru ar ran Cynghorau Gwynedd, Ynys Môn,
Ceredigion a Sir Gar penderfynwyd fod:
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas
PENDERFYNIAD
Gan fod Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel
corff arweiniol i Raglen Arfor gan dargedau adnoddau Cronfa Arloesi Arfor
Llywodraeth Cymru ar ran Cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gar
penderfynwyd fod:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn gynllun cyffroes a fydd, gobeithio, yn profi gallu
siroedd y Gorllewin fod modd gwneud gwaith economaidd ar y cyd.
Ychwanegodd y
Pennaeth Economi a Chymuned fod Cyngor Gwynedd wedi cytuno i fod yn awdurdod
arweiniol ar y cynllun a bydd £2 filiwn o gyllideb ar gael i’r cynllun dros
gyfnod o ddwy flynedd. Ychwanegwyd fod prosiectau wedi cael ei blaenoriaethu ar
gyfer y gweithgaredd arfaethedig yng Ngwynedd i ddatblygu’r economi ac yn ei
dro cynnal yr iaith. Mynegwyd fod y cyfnod yn un tymor byr ac felly nid yw’n
glir beth fydd y gwahaniaeth tymor hir. Pwysleisiwyd gan fod y cynlluniau yn
rhai arloesol y bydd y pedair sir yn cymharu effaith y cynlluniau ac efallai y
bydd modd chwilio am arian ychwanegol i ddatblygu ymhellach.
Amlinellwyd fod y
gronfa yn un arloesi ac felly bydd yn gyfle i Wynedd a’r bartneriaeth i geisio
cynlluniau gwahanol a newydd. Nodwyd fod y cyfle i Wynedd fod yn gorff
arweiniol yn dangos y clod i ymrwymiad, rheolaeth ariannol a’r defnydd o iaith
sydd gan y Cyngor.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Nodwyd fod y cynllun hwn yn un
cyffroes, ond holwyd os bydd modd i fentrau cymdeithasol ymgeisio am arian i
fentro. Nodwyd fod modd ymgeisio ond fod cyllideb yn un bach ar felly bydd
angen asesu pob cais gan mai dim ond digon i ryw 3 menter sydd yno.
¾
Pwysleisiwyd ei bod yn hen bryd i
gynlluniau gael ei greu ar draws Gorllewin
Cymru, er nad oes arian mawr, cynlluniau cyffroes.
¾
Nodwyd fod y
gyllideb yn fach iawn ac y bydd yn bwysig ei ddefnyddio yn ofalus gan sicrhau
fod effaith yr ymyrraeth yn cael ei fesur yn glir.
Awdur: Sioned Williams