7 PRIS CINIO YSGOLION CYNRADD 2019/20 PDF 60 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Rees Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd i beidio a chodi targed incwm cinio ysgolion cynradd yn
unol a chwyddiant sydd yn golygu na fydd pris cinio ysgolion cynradd yn codi ym
Medi 2019.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Garem Jackson
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd
i beidio a chodi targed incwm cinio ysgolion cynradd yn unol a chwyddiant sydd
yn golygu na fydd pris cinio ysgolion cynradd yn codi ym Medi 2019.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi o ganlyniad i gynnydd mewn chwyddiant
mae angen codi pris cinio ysgol mewn ysgolion cynradd 4.1% er mwyn cyrraedd y
targed incwm. Ychwanegwyd drwy beidio codi’r pris bydd diffyg yn y gyllideb o
£82,220.
Nodwyd o’u gymharu â siroedd eraill mae Gwynedd yn o’r rhai sy’n codi’r
pris uchaf. Amlinellwyd yn dilyn codi
pris cinio ysgol ym Medi 2017 fod canran o blant sydd yn cael cinio ysgol wedi
lleihau o 50% i 46%. Mynegwyd os ganlyniad i hyn nid yw’r adran yn awyddus i
godi’r pris eto.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Tynnwyd
sylw at ystadegau a gyhoeddwyd gan elusen ‘Save the Children’ a nodwyd fod
tlodi ymhlith plant yn codi, ac yn benodol i deuluoedd sydd yn gweithio ar
incwm isel, o ganlyniad i hyn pwysleisiwyd y dylid cadw prisiau yn is.
¾
Holwyd
os na fyddai’r pris yn codi sut fydd modd cyfarch y bwlch ariannol. Nodwyd fod
cyllideb wrth gefn gan y Cyngor i sefyllfaoedd annisgwyl ac felly ni fydd yn
broblem a bydd modd ei adeiladu i’r gyllideb ar gyfer blwyddyn nesaf.
Ychwanegwyd fod y cynllun yma yn gynllun i ddod o hyd i arbedion ac felly bydd
disgwyliad i’r adran ddod o hyd i gynllun amgen er mwyn dod o hyd i’r arbediad.
¾
Nodwyd
pryder am leihad yn y niferoedd yn dilyn codi’r prisiau ond nodwyd ei bod yn
dda bod y pris yn cadw'r un peth.
Awdur: Bethan Griffith