Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/07/2019 - Y Cabinet (eitem 7)

7 PRIS CINIO YSGOLION CYNRADD 2019/20 pdf eicon PDF 60 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Rees Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i beidio a chodi targed incwm cinio ysgolion cynradd yn unol a chwyddiant sydd yn golygu na fydd pris cinio ysgolion cynradd yn codi ym Medi 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Garem Jackson 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i beidio a chodi targed incwm cinio ysgolion cynradd yn unol a chwyddiant sydd yn golygu na fydd pris cinio ysgolion cynradd yn codi ym Medi 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi o ganlyniad i gynnydd mewn chwyddiant mae angen codi pris cinio ysgol mewn ysgolion cynradd 4.1% er mwyn cyrraedd y targed incwm. Ychwanegwyd drwy beidio codi’r pris bydd diffyg yn y gyllideb o £82,220.

 

Nodwyd o’u gymharu â siroedd eraill mae Gwynedd yn o’r rhai sy’n codi’r pris  uchaf. Amlinellwyd yn dilyn codi pris cinio ysgol ym Medi 2017 fod canran o blant sydd yn cael cinio ysgol wedi lleihau o 50% i 46%. Mynegwyd os ganlyniad i hyn nid yw’r adran yn awyddus i godi’r pris eto.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at ystadegau a gyhoeddwyd gan elusen ‘Save the Children’ a nodwyd fod tlodi ymhlith plant yn codi, ac yn benodol i deuluoedd sydd yn gweithio ar incwm isel, o ganlyniad i hyn pwysleisiwyd y dylid cadw prisiau yn is.

¾     Holwyd os na fyddai’r pris yn codi sut fydd modd cyfarch y bwlch ariannol. Nodwyd fod cyllideb wrth gefn gan y Cyngor i sefyllfaoedd annisgwyl ac felly ni fydd yn broblem a bydd modd ei adeiladu i’r gyllideb ar gyfer blwyddyn nesaf. Ychwanegwyd fod y cynllun yma yn gynllun i ddod o hyd i arbedion ac felly bydd disgwyliad i’r adran ddod o hyd i gynllun amgen er mwyn dod o hyd i’r arbediad.

¾     Nodwyd pryder am leihad yn y niferoedd yn dilyn codi’r prisiau ond nodwyd ei bod yn dda bod y pris yn cadw'r un peth.

 

Awdur: Bethan Griffith