12 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH GORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL PDF 139 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNIAD
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r prif faterion sydd yn codi o berfformiad yr adran dros y
misoedd diwethaf. Nodwyd fod nifer o brentisiaid newydd wedi eu penodi i’r
cynllun prentisiaethau ac ategwyd fod 3 o’r 6 swydd wedi ei llenwi gan ferched
a bod dau o’r rhain yn y maes peirianneg. Mynegwyd o ran cynllun Cadw’n Budd yn
Lleol fod ffigyrau gwariant gyda chwmnïau sy’n lleol yn parhau’n weddol gyson
a’r llynedd ond fod ffigyrau gariant wedi lleihau felly bydd yr adran yn cadw
golwg ar y mater.
Nodwyd fod
gwasanaeth Hunanwasanaeth ar-lein yn flaenoriaeth er mwyn cynnig y gwasanaeth
gorau i bobl Gwynedd, a nodwyd fod 5 gwasanaeth yn derbyn mwy o geisiadau drwy
hunanwasanaeth na sydd wedi ei derbyn dros y ffon. Ychwanegwyd fod gwaith yn
cael ei wneud i edrych ar sut y bydd modd i ddefnyddio teclyn sgwrsio ar lein.
Mynegwyd nad oes modd defnyddio system dadleniadau DBS drwy gyfrwng y Gymraeg,
a bod y Cyngor wedi hysbysu Comisiynydd y Gymraeg.
Ychwanegodd
Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol ers ysgrifennu’r adroddiad fod nifer y
prentisiaethau bellach wedi codi i 10 swydd, a bod 6 yn cael ei hysbysebu dros
yr haf ar gyfer yr Adran Oedolion ac a Gwasanaeth Ieuenctid. Ategwyd fod gan y
Cynllun Prentisiaethau arian i hyd at 20 swydd prentisiaeth ac felly eu bod
bron a chyrraedd y targed. Pwysleisiwyd fod y prentisiaethau drwy gyfrwng y
Gymraeg a bod y rhain yn golygu lleoliadau gwaith yn ogystal ar hyfforddiant.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾
Nodwyd
o ran ystadegau'r wefan bydd yr adran yn ymchwilio i mewn os yw’r ffigwr o
334,992 yn nifer o ‘hits’ neu unigolion penodol yn ymweld â gwefan y Cyngor
Awdur: Geraint Owen