14 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG PDF 114 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Rees Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Cemlyn Williams
PENDERFYNIAD
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi y bydd yn cyfeirio at dair blaenoriaeth sydd i’w weld yng
nghynllun y Cyngor. Mynegwyd o ran prosiect Cryfhau Arweinyddiaeth fod y Cyngor
wedi cytuno ar gyfundrefn gyda GwE o ran trefniadau hyfforddi perthnasol.
Ychwanegwyd mai cynllun cyntaf y prosiect hwn yw mynd i’r afael a heriau yn
ymwneud â denu a recriwtio arweinyddion a rheolwyr canol yn Ysgolion Uwchradd
Meirionydd.
Edrychwyd ar Raglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan nodi fod gwaith adeiladu wedi cychwyn ar greu
ysgol newydd ar gyfer Ysgol y Garnedd ym Mangor. Nodwyd y bydd Ysgol Godre’r
Berwyn yn agor ei ddrysau ar yr 2il Medi 2019; ychwanegwyd fod problemau wedi
codi o ran cyllideb i’r ysgol newydd yn dilyn dyled oedd i’w gweld yn un o’r
ysgolion, ond fod hyn bellach wedi ei datrys ac mae pawb yn disgwyl yn eiddgar
i’r ysgol agor. Mynegwyd fod gwaith cychwynnol wedi cychwyn i edrych i adeiladu
ysgol newydd yng Nghricieth drwy drafodaethau cychwynnol gyda Chyrff
Llywodraethol Ysgol Treferthyr ac Ysgol Llanystumdwy.
Tynnwyd sylw at
Drawsnewid y Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chymhwysiad, gan nodi
fod prif ffocws y cynllun hwn yn canolbwyntio ar addasu’r gwasanaeth i ddygymod
a newid yn Neddfwriaeth Adnoddau Dysgu Ychwanegol. Ychwanegodd fod yr Aelod
Cabinet yn awyddus i weld ymyrraeth blynyddoedd cynnar a’r ddarpariaeth 16-25
yn cael ei drafod gan y Bwrdd Cefnogi Pobl maes o law.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Holwyd
beth oedd am ddigwydd i gynllun TRAC, cynllun llwyddiannus sydd yn cael ei
ariannu drwy Gronfa Ewrop. Nodwyd fod y dyfodol yn aneglur ond fod cryfder yn y
math yma o gynlluniau.
Awdur: Garem Jackson