13 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD PDF 333 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Dilwyn Morgan
PENDERFYNIAD
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi y bydd yn crynhoi'r prif bethau sydd wedi eu codi o’r
cyfarfodydd perfformiad yr adran. Ychwanegol ar y cyfan, fod yr Aelod Cabinet
yn hapus a’r ffordd mae’r adran yn symud ymlaen, mynegwyd fod ychydig o fylchau
o ran data ond fod yr adran ar daith er mwyn cael eu data ar flaenau eu bysedd.
Nodwyd o ran
cynllun Cefnogi Llesiant Pobl fod gwaith yn cael ei gynnal ar hyn o bryd er
mwyn mapio'r drefn bresennol. Mynegwyd fod hyfforddiant am agenda ACE wedi ei
drefnu ar y cyd gyda’r Heddlu yn ystod mis Hydref. O ran Strategaeth Cefnogi
Pobl, nodwyd fod y cynllun yn cefnogi rhieni a datblygu sgiliau rhiantu da.
Ychwanegwyd y bydd Hwb Teulu Gwynedd yn cael i lansio yn y misoedd nesaf i roi
gwybodaeth ar y we. Ategwyd fod gwaith yn cael ei wneud i gynllunio a chasglu
gwybodaeth ar y cyfer y lansiad.
Tynnwyd sylw at
ystadegau perfformiad a nodwyd fod llithriad wedi ei weld mewn canran
cynadleddau amddiffyn plant dechreuol, mynegwyd oherwydd bod y tîm mor fach os
un aelod o staff yn absennol mae hi yn anodd iawn i wella’r perfformiad yn
dilyn hyn. Pwysleisiwyd fod cynnydd o 11% yn nifer y plant sydd mewn gofal ar
ddiwedd Mawrth 2019. Pwysleisiwyd fod hyn yn her fawr sydd i’w gweld yn
genedlaethol a bod trafodaethau yn cael ei gynnal a’r Llywodraeth i drafod y
mater. Ategwyd mai nid cynnydd mewn niferoedd yw’r unig her ond fod yr anghenion
sydd gan y plant yn llawer mwy cymhleth ac o ganlyniad fod lleoliadau maeth yn
costio llawer yn uwch.
Nodwyd mai prif
bryder yr Adran Plant yw’r broblem maent yn eu hwynebu i daro targed arbedion.
Gyda chynnydd mewn costau lleoliadau i sicrhau gofal arbenigol, mae hyn yn
cynyddu’r broblem. Ychwanegwyd fod yr Adran yn ceisio rhoi cynlluniau amgen eu
lle fel eu bod yn cyrraedd y targed.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Nodwyd
fod cynnydd i’w gweld mewn niferoedd o blant mewn gofal dros Gymru a nodwyd y broses
o osod plentyn mewn gofal. Pwysleisiwyd fod 95% o achosion wedi mynd drwy’r
llys, a bod hyn yn amlygu fod proses gadarn yn eu lle a'r llys sydd yn
penderfynu ar unigolion. Mynegwyd fod angen gweithio gyda theuluoedd i osgoi
trefn gyfreithiol.
Awdur: Marian Parry Hughes