Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/07/2019 - Y Cabinet (eitem 6)

6 CYNLLUN FFORDD GWYNEDD 2019-22 pdf eicon PDF 62 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun a’r rhaglen waith ar gyfer 2019-22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Cynllun a’r rhaglen waith ar gyfer 2019-22.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet yn gwbl ymroddedig i Ffordd Gwynedd. Nodwyd fod y Cabinet wedi mabwysiadu Cynllun Ffordd Gwynedd gwreiddiol yn ôl yn Hydref 2015, ac esboniwyd fod Ffordd Gwynedd yn ffordd o weithio y mae’r Cyngor wedi’i fabwysiadu. Ategwyd fod newid diwylliant, ymddygiadau a meddylfryd wrth wraidd hyn oll, ac ychwanegwyd fod y penderfyniad hwn yn mynd i roi cyfeiriad pellach i’r Cynllun a'r ffordd ymlaen.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod hyfforddiant Ffordd Gwynedd wedi ei gynnal a bod brwdfrydedd i wella gwasanaeth i’w weld yn amlwg iawn. Mynegwyd fod gwaith i’w wneud ar gynllun adrannau ar sut i raeadrau'r meddylfryd i bawb, a bod rhaglen waith wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod ail sefydlu rhwydwaith rheolwyr yn holl bwysig i sicrhau trafodaeth o ran ffordd Gwynedd. Mynegwyd wrth edrych ar daith Ffordd Gwynedd, er bod y Cyngor wedi cymryd camau breision fod y datblygiad yn amrywio o adran i adran ond fod adlewyrchu parhaus. Ategwyd fod llawer o waith yn parhau i’w wneud ond y bydd y Strategaeth yn symud y Cyngor yn nes at ddiwedd y daith.

¾     Pwysleisiwyd fod datblygu arweinyddiaeth yn gwbl wreiddiol i Ffordd Gwynedd a bod angen sefydlu diwylliant ble mae rheolwyr yn arwain eu staff ac nid yn rheoli pobl.

¾     Mynegwyd mae is-bennawd Ffordd Gwynedd yw sicrhau fod Pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn mae’r Cyngor yn ei wneud. Ychwanegwyd ei bod yn amhosibl gwneud popeth mae pobl unigolyn yn awyddus i’r Cyngor ei wneud ac o ganlyniad mae angen blaenoriaethu.

¾     Nodwyd fod modd gweld y daith Ffordd Gwynedd mewn adrannau, ac ychwanegwyd fod perfformiad weithiau yn disgyn cyn codi.

 

Awdur: Geraint Owen