10 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED PDF 175 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at un neu ddau o
brosiectau. Tynnwyd sylw at Weledigaeth Twf Gogledd Cymru gan nodi fod Cyng.
Dyfrig Siencyn yn gadeirydd bellach ar y Bwrdd Uchelgais.
Nodwyd fod gwaith
yn cael ei wneud ar ddatblygu'r cynllun Creu Swyddi Gwerth Uchel. Mynegwyd fod
cystadlaethau wedi ei gynnal yng Nghanolfan Awyrfod Eryri, fel rhan o
Gystadleuaeth Ryngwladol Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol. Bu i ddisgyblion
cynradd ac uwchradd lleol gael y cyfle i weld cystadleuwyr ac adeiladu a hedfan
llongau awyr ac awyrennau model. Tynnwyd sylw at Raglen Arloesi Gwynedd Wledig
gan fynegi fod gwaith cyffroes yn cael ei gynnal fel rhan o dreialon Leader.
Pwysleisiwyd y cynllun rhyfeddol ac arloesol sydd i’w gweld ar Ffarm Coleg
Glynllifon.
Mynegwyd fod y Cyngor wedi cytuno ar amserlen gyda DCMS ar
gyfer cyflwyno enwebiad Llechi Gwynedd i UNESCO ym mis Tachwedd a bydd yn dod
i’r Cabinet ym mis Hydref.
Nodwyd wrth edrych ar arbedion yr adran fod 5 o gynlluniau
2019/20 wedi ei gwireddu neu ar drac i wireddu yn amserol ac amlinellwyd y
cynlluniau arbedion.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Nodwyd
fod llawer o gwmnïau yn ei chael yn anodd penodi staff Cymraeg a rhain a
chyflogau uchel. Pwysleisiwyd fod angen codi ymwybyddiaeth a sylw pobl ifanc
o’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngwynedd.
Awdur: Sioned Williams