Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Catrin Wager
PENDERFYNIAD
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi o ran yr Adran Briffyrdd fod cynlluniau amgylcheddol yn mynd
yn hynod dda, gyda chynllun newid y goleuadau stryd i dechnoleg LED yn parhau,
a fydd yn lleihau ynni ac atal llygredd goleuo. Mynegwyd fod lleihad yn y caran
y gwastraff trefol a anfonir i dirlenwi wedi gostwng o 38% i 19%. Amlygwyd fod
newidiadau i’r drefn o gasglu gwastraff, bydd yn weithredol yn Nwyfor ar 1 Gorffennaf
ac yna yn Arfon cyn diwedd y flwyddyn.
Wrth edrych ar
ailgylchu mae’r canran yn parhau yn sefydlog ar 63% gyda’r targed erbyn Mawrth
2020 yn 64%. Pwysleisiwyd fod Cyngor yn gyngor sydd yn ailgylchu yn gyfrifol ac
o fewn Prydain.
O ran arbedion yr
adran Briffyrdd, nodwyd fod y Cynlluniau Cau Toiledau Cyhoeddus y Sir yn
llithro gyda’r Gwasanaeth yn edrych ar gynllun amgen i wireddu gweddill yr arbedion. Er hyn
mynegwyd fod cynllun Gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng y Sir i foderneiddio i
system ddigidol yn tanwario ac o ganlyniad bydd modd ei ddefnyddio i gyfarch y
gwahaniaeth.
O ran cynlluniau
arbedion yr adran Briffyrdd nodwyd ei bod wedi eu gwireddu neu ar drac. Ond
codwyd pryder am gynllun i godi incwm gorfodaeth stryd, ond bydd angen rhoi
sylw pellach a thrafodaeth ar sut i fesur glendid y strydoedd.
O ran Ymgynghriaeth
Gwynedd mynegwyd fod arbedion yr adran ar darged. Er bod targedi incwm yn
dangos diffyg, mynegwyd fod hyn yn arferol iawn i’r adran yn ystod chwarter 1.
Nodwyd fod yr Aelod yn hapus a gwasanaeth y Rheolaeth Adeiladu, a bod yr
adborth yn dangos bodlonrwydd cwsmer.
Awdur: Steffan Jones