12 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD PDF 123 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNIAD
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei bod wedi bod yn gyfnod prysur i’r adran. Tynnwyd sylw at
yr uchafbwyntiau. Un o’r rhain oedd Sesiwn Codi Ymwybyddiaeth o Dwyllo.
Mynegwyd fod yn rhannu gwybodaeth ag unigolion ar sut i beidio cael eu twyllo a
bu i ran ohono gael ei darlledu ar ‘Byd ar Bedwar’.
Nodwyd fod sesiwn
‘Gofalu am ein Hamgylchedd’ wedi ei gynnal gyda’r Cynghorwyr a oedd yn
llwyddiannus. Yn y dyfodol, nododd yr Aelod Cabinet y bydd yn mynd gyda’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyngor i
weld eu harolygiadau hylendid bwyd ac yn mynychu’r cyfarfodydd trwyddedu.
Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn un cyflawn sydd yn cronni cyfnod prysur a
diddorol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Trafodwyd
y graffiau sydd i’w gweld gan nodi fod rhai o’r graffiau heb ddata. Nodwyd fod
y graff dan sylw, fod y nifer o ymweliadau yn cael ei bennu gan ar ASB ac nad
ydynt wedi cadarnhau niferoedd ar gyfer y flwyddyn eto. Mynegwyd fod angen
edrych ar y graffiau a sicrhau eu bod yn cyfleu beth mae’r adran yn awyddus
iddynt eu gwneud.
Awdur: Dafydd Wyn Williams