11 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 116 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan dynnu sylw at rai cynlluniau o fewn yr adran Gyllid. Mynegwyd fod
y gwaith o ledaenu defnydd o system reoli dogfennau a chofnodi electronig yn
agosáu at gyrraedd ei derfyn. Bellach dim ond 5 tîm sydd ar ôl o holl
wasanaethau’r Cyngor yn aros i fudo i’r system newydd.
Mynegwyd fod y
Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi codi eu hincwm a hyn ar ddechrau 2019/20 drwy
ganolbwyntio eu hadnoddau gyflawni archwiliad o gyfrifon cynghorau cymuned a
thre. Amlinellwyd fod camgymeriad dynol wedi ei wneud ym mis Mawrth yn y
Gwasanaeth Cyflogau a arweiniodd at Gymorthfeydd Dosbarth yn colli £30 o’u
cyflogau. Bellach, nodwyd fod y cyflogau
wedi ei gosod i’w lefel gywir.
O ran Technoleg
Gwybodaeth mynegwyd fod cael achosion o golli gwasanaeth wedi sicrhau fod y
Gwasanaeth wedi uwchraddio eu canolfannau data er mwyn cryfhau gwydnwch y
gwasanaeth. Nodwyd y bydd y ddwy ganolfan ddata yn gallu adfer gwasanaethau
bron yn syth.
Diolchwyd i staff am
gau cyfrifon er bod pwysau ychwanegol gyda chau cyfrifon Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru yn ogystal. Pwysleisiwyd yn ogystal fod arbedion yr
adran wedi eu cwblhau am 2019/20.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Tynnwyd
sylw at berfformiad y Gwasanaeth Trethi gan nodi fod nifer uchel o ymholiadau
wedi ei derbyn o ganlyniad i godi premiwm treth ar dai gwag ac ail gartrefi. Er
hyn nodwyd y bydd hunanwasanaeth yn cael ei gynnig i drethdalwyr cyn hir, ac o
ganlyniad bydd modd gwneud rhai ymholiadau ac addasiadau syml ar y we, fydd yn
lleihau’r nifer galwadau.
¾
Mynegwyd
gwerthfawrogiad fod y Gwasanaeth Budd-daliadau wedi lleihau'r nifer dyddiau a
gymerwyd i brosesu cais budd-dal newydd, ond holwyd ble mae’r Cyngor o’i
gymharu â siroedd eraill. Nodwyd ar hyn o bryd yn y canol, ond mae’r Gwasanaeth
yn ceisio parhau i wella.
Awdur: Dafydd L Edwards