6 GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS BANGOR PDF 115 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd
Cofnod:
Cyflwynwyd gan
Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan fynegi fod Bangor yn ddinas amlddiwylliannol gyda naws
Gymreig. Ychwanegwyd fod llawer o
ddatblygiadau yn digwydd o fewn y ddinas gyda llawer o dai gwag bellach yn ôl
mewn defnydd.
Esboniwyd fod
gorchymyn eisoes yn bodoli ym Mangor sydd yn gosod pwerau gorfodol i’r Heddlu.
Ychwanegwyd fod yr Heddlu wedi awgrymu nad yw’r Gorchymyn presennol yn rhoi
grymoedd digonol iddynt a chyflwynwyd tystiolaeth yn mynegi hyn. Pwysleisiwyd
mai’r Cyngor sydd gan yr hawl greu gorchymyn ac yn dilyn trafodaethau gyda’r
Heddlu a chael barn gyfreithiol fod y Cyngor yn awyddus i fwrw ymlaen gyda’r
broses o greu Gorchymyn newydd. Ategwyd
mai’r cam nesaf fydd i gynnal ymgynghoriaeth cyhoeddus ar y mater cyn dod yn ôl
i’r Cabinet i wneud penderfyniad llawn.
Ychwanegodd yr Uwch
Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn dilyn trafodaethau am
dros 6 mis gyda’r Heddlu fod y Cyngor yn ystyried fod pedwar o’r chwe
chyfyngiad a amlinellwyd gan yr Heddlu yn addas i’w cynnwys yn y Gorchymyn
Arfaethedig. Mynegwyd mai prif reswm dros greu'r Gorchymyn newydd oedd effaith
ar fywyd trigolion sydd yn byw yn yr ardaloedd.
Mynegwyd fod yr
Heddlu bellach a phrofiad o ddefnyddio gwahanol fodelau gorfodaeth ar draws y
rhanbarth, ac felly yn ffafrio model gwahanol i’r model cosb benodedig. Ategwyd
y bydd y drefn hon yn cael ei fonitro yn ofalus ac yn sicrhau fod yr awyrgylch
yn gwella i’r unigolion a’r trigolion. Nodwyd fod yr amodau sydd wedi ei
hychwanegu yn rhesymol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Gofynnwyd
am gadarnhad ‘na fydd y Gorchymyn yn cael ei ddefnyddio i ddelio a symud pobl
ddigartref. Mynegwyd fod hyn yn un o’r chwe amod a gyflwynwyd gan yr Heddlu a
bod y Cyngor wedi ei wrthod. Mynegwyd fod gwaith angen ei wneud i gynorthwyo
pobol ddigartref a nodwyd fod hyfforddiant yn cael ei wneud gyda heddweision ar
hyn o bryd i ddarparu cefnogaeth.
¾
Tynnwyd
sylw at y map o droseddau yn ardaloedd Bangor gan nodi fod clwstwr uchel o
droseddau ym Maesgeirchen - nodwyd fod cynlluniau arbennig gan yr Heddlu yn yr
ardal yma i leihau trosedd.
Awdur: Catherine Roberts