Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/06/2019 - Y Cabinet (eitem 8)

8 CAIS AM ADNODDAU UN TRO O'R GRONFA TRAWSFFURFIO I ARIANNU Y CYNLLUN GWASANAETHAU CEFNOGI DEMENTIA YN Y GYMUNED AM GYFNOD O FLWYDDYN pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng, Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd dyrannu £97,660 o’r Gronfa Trawsffurfio i ariannu Cynllun Gwasanaethau Cefnogi Dementia yn y Gymuned (sy’n cynnwys Dementia Go), i ariannu 2 swydd llawn amser (ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7awr yr wythnos wedi eu lleoli yn Nhywyn a Chaernarfon hyd at 31 Mawrth, 2020.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig

 

            PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd dyrannu £97,660 o’r Gronfa Trawsffurfio i ariannu Cynllun Gwasanaethau Cefnogi Dementia yn y Gymuned (sy’n cynnwys Dementia Go), i ariannu 2 swydd llawn amser (ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7awr yr wythnos wedi eu lleoli yn Nhywyn a Chaernarfon hyd at 31 Mawrth, 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais am arian yn dilyn cyfnod peilot llwyddiannus o ddwy flynedd. Mynegwyd fod elfen Dementia Go yn rhaglen a ddatblygwyd yng Ngwynedd a oedd yn cyfrannu at fywydau pobl a’u gofalwyr sydd yn byw a dementia. Ychwanegwyd fod Dementia Go yn gyfle i ddod a phobl sydd yn byw a dementia at ei gilydd yn gymdeithasol ac yn gymorth i cynorthwyo pobl i aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy.

 

Nodwyd fod 11 o grwpiau Dementia Go yn cael ei gynnal ar draws y sir gyda 4 aelod o staff penodol i’r cynllun. Ategwyd fod y pedwar aelod o staff yn bencampwyr yn y maes ac yn rhannu gwybodaeth ac yn trafod dementia yn y gymuned. Mynegwyd fod pwyslais ar ymarfer corfforol drwy sesiwn Dementia Go, a drwy ddod a phobl at ei gilydd yn lleihau unigedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at yr elfen o ddatblygu technoleg yn yr adroddiad, a holwyd pa fath o ddatblygiadau a fyddai’r rhain. Mynegwyd fod y gwasanaeth wedi datblygu teclyn sydd yn rhoi dealltwriaeth i bobl yn y gymuned drwy declynnau rith wirionedd sut beth yw byw gyda dementia.

¾     Nodwyd fod yr arian ar gyfer un tro yn unig, holwyd os oes modd hyfforddi staff o fewn Canolfannau Byw’n Iach fel bod modd iddynt barhau i gynnal y sesiynau. Mynegwyd fod staff Dementia Go yn cynnal sesiynau hyfforddiant ac yn benodol mewn cartrefi preswyl.

¾     Pwysleisiwyd fod ymchwil yn cael ei wneud ac y dylid yn ystod y flwyddyn i werthuso’r cynllun yn fwy ffurfiol i’n galluogi i ystyried a ddylid ei gyllido yn dilyn y flwyddyn hon.

 

 

Awdur: Aled Davies