Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/06/2019 - Y Cabinet (eitem 7)

7 HYBU ANNIBYNIAETH DRWY GYNYDDU CAPASITI, DATBLYGU GWASANAETHAU A NEWID DIWYLLIANT O FEWN DARPARIAETH THERAPI GALWEDIGAETHOL pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd dyrannu £116,000 o adnoddau un tro o’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer ariannu swydd Arweinydd Therapi Galwedigaethol fydd â chyfrifoldeb am arwain a datblygu'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ar draws yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant (cyfnod o 2 flynedd).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd dyrannu £116,000 o adnoddau un tro o’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer ariannu swydd Arweinydd Therapi Galwedigaethol fydd â chyfrifoldeb am arwain a datblygu'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ar draws yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant (cyfnod o 2 flynedd).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn gwneud cais un tro o’r Gronfa Trawsffurfio am £116,000 i ariannu swydd Arweinydd Therapi Galwedigaethol am gyfnod o ddwy flynedd. Ychwanegwyd mai’r rhesymeg dros hyn yw’r agenda o newid sydd gan yr Adran yn benodol yn y maes ataliol ac i sicrhau ffyrdd i geisio cadw defnyddwyr gwasanaeth adref mor hir â phosib cyn mynd i ofal. Mynegwyd fod rôl Therapyddion Galwedigaethol yn allweddol i sicrhau cefnogaeth yn y cartrefi.  Ategwyd fod y rôl newydd yn allweddol er mwyn newid diwylliant o fewn y gwasanaeth er mwyn sicrhau fod y dinesydd yn ganolog i’r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig iddynt.

 

Ychwanegodd y Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion y bydd y rôl yn trawsnewid y gwasanaeth gan roi pwyslais penodol ar waith ataliol. Ychwanegwyd y bydd y rôl yn gwneud gwaith o ail fodelu ac integreiddio rolau therapi rhwng yr Awdurdod Lleol a’r bwrdd Iechyd i sicrhau fod adnoddau presennol yn eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol ac y bydd y gwasanaeth yn fwy person canol i’r defnyddiwr gwasanaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Holwyd os yw’r Bwrdd Iechyd yn barod i gyd-weithio yn nes gyda’r Cyngor. Nodwyd fod gweledigaeth gyson gan y Pwyllgor Integredig Rhanbarthol i weithio yn nes ac ychwanegwyd fod angen edrych ar brosesau ar y cyd i leihau dyblygu.

-        Dangoswyd cefnogaeth i’r cynllun gan nodi ei fod yn cyd-fynd a blaenoriaethau'r Cabinet. Ychwanegwyd pwysigrwydd gwaith ataliol gan fod pethau bach yn gwneud llawer o wahaniaeth i sicrhau fod pobl yn gallu aros adref am gyfnod hwy.

-        Pwysleisiwyd mai cais un tro am gyfnod o 2 flynedd yw’r cais yma gan ychwanegu y bydd angen ail edrych ar y cynllun ar ddiwedd y cyfnod.

-        Holwyd os bydd posibilrwydd o brentisiaethau o fewn y maes, nodwyd fod trafodaethau yn cael eu cynnal a Phrifysgol Glyndŵr er mwyn hyfforddi staff yn y maes i ennill cymwysterau Therapydd Galwedigaethol.

-        Cadarnhawyd fod y Cabinet, wrth dderbyn adroddiadau ar gyfrifon terfynol 2018/19 yng nghyfarfod 21 Mai, wedi adolygu’r cronfeydd a darpariaethau, a throsglwyddo £3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer y prif flaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor.  Felly, bod arian digonol wedi’i neilltuo yno ar gyfer ariannu’r gofynion un-tro gerbron yma, sef Hybu Annibyniaeth trwy gynyddu capasiti Therapi Galwedigaethol, a’r cynllun gwasanaethau Cefnogi Dementia yn y Gymuned, fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i rai o drigolion Gwynedd

Awdur: Aled Davies