Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd dyrannu
£116,000 o adnoddau un tro o’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer ariannu swydd
Arweinydd Therapi Galwedigaethol fydd â chyfrifoldeb am arwain a datblygu'r
gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ar draws yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
(cyfnod o 2 flynedd).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd dyrannu
£116,000 o adnoddau un tro o’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer ariannu swydd
Arweinydd Therapi Galwedigaethol fydd â chyfrifoldeb am arwain a datblygu'r
gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ar draws yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
(cyfnod o 2 flynedd).
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn gwneud cais un tro o’r
Gronfa Trawsffurfio am £116,000 i ariannu swydd Arweinydd Therapi
Galwedigaethol am gyfnod o ddwy flynedd. Ychwanegwyd mai’r rhesymeg dros hyn
yw’r agenda o newid sydd gan yr Adran yn benodol yn y maes ataliol ac i sicrhau
ffyrdd i geisio cadw defnyddwyr gwasanaeth adref mor hir â phosib cyn mynd i
ofal. Mynegwyd fod rôl Therapyddion Galwedigaethol yn allweddol i sicrhau
cefnogaeth yn y cartrefi. Ategwyd fod y
rôl newydd yn allweddol er mwyn newid diwylliant o fewn y gwasanaeth er mwyn
sicrhau fod y dinesydd yn ganolog i’r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig iddynt.
Ychwanegodd y Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion y bydd y rôl yn trawsnewid
y gwasanaeth gan roi pwyslais penodol ar waith ataliol. Ychwanegwyd y bydd y
rôl yn gwneud gwaith o ail fodelu ac integreiddio rolau therapi rhwng yr
Awdurdod Lleol a’r bwrdd Iechyd i sicrhau fod adnoddau presennol yn eu
defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol ac y bydd y gwasanaeth yn fwy person canol
i’r defnyddiwr gwasanaeth.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
-
Holwyd
os yw’r Bwrdd Iechyd yn barod i gyd-weithio yn nes gyda’r Cyngor. Nodwyd fod
gweledigaeth gyson gan y Pwyllgor Integredig Rhanbarthol i weithio yn nes ac
ychwanegwyd fod angen edrych ar brosesau ar y cyd i leihau dyblygu.
-
Dangoswyd
cefnogaeth i’r cynllun gan nodi ei fod yn cyd-fynd a blaenoriaethau'r Cabinet.
Ychwanegwyd pwysigrwydd gwaith ataliol gan fod pethau bach yn gwneud llawer o
wahaniaeth i sicrhau fod pobl yn gallu aros adref am gyfnod hwy.
-
Pwysleisiwyd
mai cais un tro am gyfnod o 2 flynedd yw’r cais yma gan ychwanegu y bydd angen
ail edrych ar y cynllun ar ddiwedd y cyfnod.
-
Holwyd
os bydd posibilrwydd o brentisiaethau o fewn y maes, nodwyd fod trafodaethau yn
cael eu cynnal a Phrifysgol Glyndŵr er mwyn hyfforddi staff yn y maes i
ennill cymwysterau Therapydd Galwedigaethol.
-
Cadarnhawyd
fod y Cabinet, wrth dderbyn adroddiadau ar gyfrifon terfynol 2018/19 yng
nghyfarfod 21 Mai, wedi adolygu’r cronfeydd a darpariaethau, a throsglwyddo £3m
i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer y prif flaenoriaethau yng Nghynllun y
Cyngor. Felly, bod arian digonol wedi’i
neilltuo yno ar gyfer ariannu’r gofynion un-tro gerbron yma, sef Hybu
Annibyniaeth trwy gynyddu capasiti Therapi Galwedigaethol, a’r cynllun
gwasanaethau Cefnogi Dementia yn y Gymuned, fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn
i rai o drigolion Gwynedd
Awdur: Aled Davies