6 YSGOL LLANAELHAEARN PDF 504 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Rees Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd rhoi caniatâd ‘r Adran Addysg i gynnal cyfarfodydd ffurfiol
gyda’r corff llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol eraill i drafod ystod o
opsiynau posibl ar gyfer dyfodol yr ysgol.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan
Cyng. Cemlyn Rees Williams
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd rhoi
caniatâd i‘r Adran Addysg i gynnal cyfarfodydd ffurfiol gyda’r corff
llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol eraill i drafod ystod o opsiynau
posibl ar gyfer dyfodol yr ysgol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adran yn awyddus i gynnal cyfarfodydd ffurfiol a’r
Corff Llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol i drafod ystod o opsiynau posib
ar gyfer dyfodol yr ysgol. Mynegwyd fod pryderon wedi codi am y cwymp sylweddol
yn y nifer o ddisgyblion yn yr ysgol, a bod amcangyfrifon yn dangos fod y
niferoedd yn mynd i leihau ymhellach.
Nodwyd fod y
trafodaethau cychwynnol wedi ei cynnal gyda’r Bwrdd Llywodraethol a
phwysleisiwyd mai ymgynghoriad fydd yn cael ei gynnal er mwyn adnabod a thrafod
opsiynau posib. Ychwanegodd y Swyddog Addysg fod gan yr ysgol capasiti o 53 o
ddisgyblion, ac ar hyn o bryd fod y niferoedd wedi disgyn i 11. Ychwanegwyd fod
niferoedd wedi lleihau ers 2013 gyda nifer o blant yn y dalgylch yn mynychu
ysgolion eraill.
Mynegodd yr Aelod
Lleol fod Ysgol Llanaelhaearn yn ysgol fechan sydd wedi gweithio yn galed dros
y blynyddoedd diwethaf i godi safon addysg a chyrhaeddiad y plant. Nododd ei
fod yn siomedig a trist am sefyllfa’r ysgol a bod y Llywodraethwyr yn gweithio
yn galed i geisio cynyddu nifer y plant yn yr ysgol. Ychwanegodd ei fod yn
ymwybodol y bydd problemau cyllid sylweddol gan yr ysgol os na fydd niferoedd
yn cynyddu, ond gofynnodd i’r aelodau Cabinet i ystyried ansawdd yr addysg a
hapusrwydd y plant tra’n trafod yr opsiynau.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Holwyd
gyda newid yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion y llynedd a fydd hyn yn addasu'r
ffordd y bydd yr adran yn gallu edrych ar opsiynau. Nodwyd fod yr ysgol yn
disgyn o dan gategori Trefn Cau Ysgolion Gweledig, ac felly rhan o’r drefn yna
fydd angen edrych ar bob opsiwn gan roi gwir ystyriaeth i effaith cau ar
addysg, ar y gymuned ac ar deithio i ysgolion eraill.
¾
Nodwyd
o ran amserlen cyfarfodydd y bydd angen cyfarfod cyntaf cyn diwedd tymor yr
haf, ac yna’r ail gyfarfod ym mis Medi yn dilyn gwneud gwaith ymchwil pellach
yn ystod yr haf
Awdur: Gwern ap Rhisiart