Mater - cyfarfodydd
Cyfarfod: 01/07/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)
5 Cais Rhif C19/0149/46/LL - Congl y Cae, Llangwnadl, Pwllheli PDF 158 KB
Dymchwel
adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol
yn 2 uned wyliau.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Simon Glyn
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Dymchwel adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y
tŷ ac addasu adeilad allanol yn 2 uned wyliau.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019 er mwyn cael cyfle i
ystyried cyd-destun apêl cais rhif (C18/0023/42/LL),
a wrthodwyd am resymau yn ymwneud â gormodedd o ail gartrefi yn yr ardal.
Nodwyd yn sgil y ffigyrau a nodwyd yng nghanlyniad yr apêl, ystyriwyd bod angen
ail asesu’r cais yn erbyn y ffigyrau perthnasol.
Nodwyd bod cais ar gyfer ‘Dymchwel adeilad allanol sydd wedi ei gysylltu
i’r tŷ a chodi estyniad unllawr yn ei le’, a oedd yn ffurfio rhan o’r cais
gerbron, wedi ei ganiatáu ar 28 Mehefin 2019.
Adroddwyd bod apêl am ddiffyg penderfyniad ar y cais wedi ei gofrestru
gyda’r Arolygiaeth Cynllunio. Eglurwyd pe gwrthodir neu gohirir y cais byddai’r
apêl yn parhau.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, a oedd yn cynnwys
sylwadau Uned Cefnogi Busnes yr Adran Economi a Chymuned ar gadernid y cynllun
busnes.
Nodwyd bod Polisi TWR 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(CDLl) yn caniatáu cynigion i drosi adeiladau presennol megis adeiladau
amaethyddol yn llety gwyliau, cyn belled â’u bod yn cydymffurfio gyda 5 maen
prawf. Cyfeiriwyd at faen prawf ‘v’, a oedd yn gofyn ‘Nad yw’r datblygiad yn
arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal’.
Amlygwyd bod yr ymgeisydd, yn unol â gofynion Polisi TWR 2, wedi
cyflwyno cynllun busnes cynhwysfawr a oedd yn cynnwys ffigyrau buddsoddi,
costau a ffigyrau gosod disgwyliedig ac ystyriwyd fod ei gynnwys yn realistig
ac yn dangos hyfywedd fel defnydd gwyliau. Roedd Uned Cefnogi Busnes yr Adran
Economi a Chymuned yn cydweld gyda’r canfyddiadau yma a’u bod yn fodlon ei fod
yn gynllun busnes addas ar gyfer y cais.
Nodwyd yr aseswyd gormodedd yng nghyd-destun Canllaw Cynllunio Atodol:
Llety Gwyliau a phenderfyniad apêl Tŷ’n Pwll, Nefyn. Amlygwyd bod yr
asesiad wedi cadarnhau bod 14% o’r unedau domestig yn ardal Cyngor Cymuned
Tudweiliog yn ail gartrefi, felly yn uwch na’r trothwy 10% a ddefnyddiwyd gan
yr Arolygydd ar yr apêl yn Nefyn. Eglurwyd nad oedd yr ymgeisydd yn cytuno
gyda’r ffigyrau ac yn nodi nad oedd y mwyafrif o ail gartrefi yn cael eu gosod
a’i fod yn anghytuno â’r sail yr aseswyd gormodedd.
Nodwyd er gwaethaf dadleuon yr ymgeisydd ac er bod holl faterion eraill
TWR 2 yn dderbyniol, ar sail y ffigyrau cyfredol ac yng ngoleuni penderfyniad
ac asesiad yr Arolygydd ar apêl Tŷ’n Pwll, Nefyn roedd rhaid argymell
gwrthod y cais ar sail gormodedd o lety o’r fath yn groes i faen prawf ‘v’ TWR
2 y CDLl a throthwyon Canllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau (2011).
(b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod diwygiadau sylweddol
i’r bwriad er mwyn gwneud y datblygiad yn dderbyniol;
· Bod argymhelliad y swyddogion wedi ei ddiwygio, gyda’r ffigwr o 14% o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
Cyfarfod: 20/05/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 11)
11 Cais Rhif C19/0149/46/LL - Congl y Cae, Llangwnadl, Pwllheli PDF 148 KB
Dymchwel adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol yn 2 uned wyliau
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Simon Glyn
Dogfennau ychwanegol:
- Cynlluniau, eitem 11 PDF 1 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Cais Rhif C19/0149/46/LL - Congl y Cae, Llangwnadl, Pwllheli
Cofnod:
Dymchwel
adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol
yn 2 uned wyliau
(a)
Yn dilyn penderfyniad apêl Tynpwll
Cottage, Lon-ty'n-pwll,
Nefyn, Pwllheli, (C18/0023/42/LL), awgrymwyd i’r Pwyllgor ohirio penderfyniad
ar gais Congl y Cae er mwyn i’r Swyddogion Cynllunio gael cyfle i fynd i’r
afael a chyd-destun yr apêl.
(b) Cynigiwyd ac
eiliwyd i ohirio’r cais
PENDERFYNWYD gohirio y cais er mwyn
i’r Swyddogion Cynllunio gael
cyfle i ystyried
cyd-destun apêl cais rhif (C18/0023/42/LL)