skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C19/0014/19/LL Tir ger Lon Cefnwerthyd, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 194 KB

Cais llawn i godi 29 uned preswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal cyhoeddus agored

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi 29 uned breswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus agored

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor 29.4.19 er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth / cynlluniau diwygiedig fyddai’n cyfarch pryderon y Pwyllgor.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Bontnewydd ac wedi ei ddynodi yn benodol fel safle ar gyfer codi tai newydd yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLL).  Er gwybodaeth, rhoddwyd caniatâd blaenorol ar gyfer codi 26 tŷ ar y safle  ac fe ystyriwyd fod cychwyn materol wedi digwydd i’r caniatâd hwn oedd yn golygu ei fod yn parhau yn ‘fyw’ gyda hawl cyfreithiol yn bodoli ar gyfer codi 26 tŷ newydd ar y safle. Erbyn hyn mae’n gais llawn ar gyfer 29 tŷ newydd.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio bod holl fanylion y cais wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ond cyfeiriwyd yn benodol at ymatebion i bryderon oedd wedi eu codi gan yr aelodau yn ystod y Pwyllgor blaenorol yn ogystal a phryderon oedd wedi eu codi gan berchennog tŷ cyfagos. Cyfeirwyd hefyd at y sylwadau hwyr oedd wedi eu derbyn. Un o’r pryderon hynny oedd gosodiad plotiau 14, 15 ac 16 gyda chais i’r ymgeisydd ystyried newidiadau addas i’r rhan yma o’r safle er mwyn lleihau’r effaith niweidiol ar fwynderau eiddo cyfochrog (Tywyn) ar sail gor-edrych yn bennaf. Mewn ymateb i’r pryderon hyn derbyniwyd cynlluniau diwygiedig parthed y tri eiddo arfaethedig ac adroddwyd  bod  yr ymgeisydd wedi datgan ei fod wedi trafod y diwygiadau gyda pherchennog yr eiddo. Amlygwyd bod y cynllun diwygiedig yn dangos y pellteroedd a’r ffiniau rhwng y tai ac adeilad Tywyn a’r llinell gwelededd yn deillio o ffenestri cefn plotiau 14, 15 ac 16 tuag at Tywyn. Amlygwyd ac eglurwyd y newidiadau i ddyluniad y tai ar y plotiau yma er mwyn lleihau y nifer o agoriadau ar loriau cyntaf y tai er mwyn goresgyn pryderon. Ystyriwyd fod y diwygiadau yn gwneud y datblygiad yn fwy derbyniol ac yn cyfarch pryderon y cymydog a’r Pwyllgor o safbwynt effaith ar fwynderau’r eiddo cyfochrog.

 

Nodwyd bod y swyddogion cynllunio wedi ail ymgynghori ynglŷn â’r diwygiadau gyda’r cymydog, ac fe gyfeiriwyd at ei sylwadau yn y ffurflen sylwadau hwyr. Amlygwyd nad oedd y cymydog yn fodlon gyda’r addasiadau ac yn parhau i fynegi pryderon ynglŷn â goredrych. Roedd y swyddogion o’r farn na ellid ystyried  unrhyw sail resymol a fyddai’n cyfiawnhau unrhyw bryderon pellach am effaith annerbyniol ar fwynderau’r eiddo cyfochrog o ganlyniad i ddyluniad diwygiedig a lleoliad plotiau 14, 15 ac 16.

 

Mewn ymateb i bryderon llifogydd yn lleol ac effaith posib y datblygiad ar y gymdogaeth o gofio fod yr ardal wedi dioddef effaith llifogydd yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth drylwyr i’r elfen yma er mwyn asesu yn llawn unrhyw effaith posib. Amlygwyd nad oedd unrhyw ran o safle’r cais ei hun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 29/04/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C19/0014/19/LL - Tir ger Lôn Cefnwerthyd, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 183 KB

Cais llawn i godi 29 uned breswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus agored.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi 29 uned preswyl ynghyd â thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus agored. 

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Bontnewydd ac wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer tai. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod er mwyn gweld y safle a’i gyffiniau.

 

          Eglurwyd bod caniatâd ‘byw’ ar gyfer 26 o dai ar y safle yn bodoli. Tynnwyd sylw y paratowyd yr adroddiad cyn mabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol yn ymwneud â Thai Fforddiadwy ar 15 Ebrill 2019. Nodwyd bod y datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor oherwydd bod y safle wedi ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl. Amlygwyd mai’r newid amlycaf o’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol, oedd bod y fynedfa wedi ei ail-leoli o’r lôn fach gul a oedd yn mynd fyny ochr y safle i flaen y safle ac o ganlyniad roedd newid yng ngosodiad y tai o fewn y safle, er hynny, roedd tebygrwydd yn parhau rhwng y ddau gynllun.

 

          Cydnabuwyd bod newid o’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol ond mai’r hyn oedd angen ei ystyried oedd faint o gynnydd niweidiol fyddai, os o gwbl, ar drigolion lleol a chyfochrog. Cyfeiriwyd at blotiau 14 i 17 a oedd wedi eu lleoli ar ran uchaf y safle. Nodwyd bod asesiad llawn o blotiau 15 i 17 yn dod i’r casgliad eu bod yn gallu bod yn dderbyniol ar sail ardrawiad ar eiddo cyfagos a hynny yn benodol o ran lleoliad a phellter oddi wrth y ffin gyda’r tŷ presennol cyfagos. Nodwyd yr aseswyd yn benodol os oedd gor-edrych annerbyniol yn debygol o ddeillio o leoli’r 4 tŷ ar y rhan yma o’r safle. Eglurwyd y canolbwyntiwyd ar blot 14 oherwydd y pryder o edrych i mewn i ran breifat o ardd y tŷ cyfochrog. Nodwyd bod y datblygwr wedi newid lleoliad gwreiddiol y tŷ dan sylw a’i symud ymlaen fel ei fod 12.5 medr i ffwrdd o’r ffin ynghyd a rhoi ffenestr o siâp eithaf anghyffredin er mwyn osgoi gor-edrych yn ogystal â symud ffenestri eraill.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd yn cynnwys ymateb perchennog yr eiddo cyfochrog (Tywyn) i’r diwygiadau.

 

          Nodwyd bod y swyddogion o’r farn bod y diwygiadau yn gwneud y sefyllfa yn dderbyniol ac na fyddai yna unrhyw or-edrych annerbyniol, byddai unrhyw or-edrych ar draws rhan gwaelod yr ardd ac felly dim dros unrhyw ran breifat.

 

          Amlygwyd bod perchennog yr eiddo cyfagos yn mynegi pryder o ran y ddau dŷ canol a ffenestri llawr cyntaf y tai a’r effaith ar hyd ochr ei dŷ lle’r oedd ffenestr stydi a ffenestr ochr ystafell fyw, ni ystyriwyd eu bod yn brif ystafelloedd ac mai’r ardd gefn oedd y man mwyaf preifat o’r eiddo cyfochrog ac na fyddai unrhyw or-edrych yn annerbyniol, er hynny rhaid nodi bod pryderon y cymydog yn parhau.

         

          Cyfeiriwyd at y pryder mawr yn lleol am effaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6