skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 20/05/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 8)

8 Cais Rhif C18/0993/26/LL - Tir ger Hen Gapel, Ffordd Waunfawr, Caeathro, Caernarfon pdf eicon PDF 136 KB

Diwygio amod rhif 1 o ganiatad cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Edgar Wyn Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diwygio amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor 29.4.19 er mwyn caniatáu i’r Swyddogion Cynllunio ystyried sylwadau hwyr yr Uned Iaith.

 

Amlygwyd bod y cais yn ei gyfanrwydd wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Caeathro fel y’i cynhwysir yn y CDLl mewn man gweddol amlwg yng nghanol y pentref. Nodwyd nad oedd dyluniad, edrychiadau, deunyddiau, cynllun na ffurf y tai wedi newid ers i’r cais blaenorol gael ei ganiatáu yn 2014 ac felly ystyriwyd fod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol.

 

Adroddwyd bod y datblygiad yn cynnwys 4 tŷ fforddiadwy sydd yn gyfystyr a 33%. Gan nad oedd prisiad swyddogol er mwyn sefydlu pris marchnad agored y tai wedi ei dderbyn nodwyd y byddai angen i’r datblygwr gytuno ar y pris gyda’r Adran Cynllunio er mwyn pennu disgownt priodol ar gyfer y tai fforddiadwy. Amlygwyd y gellid gwneud hynny drwy amod priodol fyddai yn sicrhau tai fforddiadwy.

 

Wrth ystyried materion darpariaeth addysgol rhagwelwyd y byddai cyfanswm o 15 disgybl ysgol gynradd yn deillio o’r cais yma ar gyfer 12 tŷ, ynghyd â datblygiad arall gan yr ymgeisydd ym Mhontnewydd am 29 o dai. Amlygwyd bod Ysgol Bontnewydd, sef  yr ysgol ddalgylch, gyda chapasiti ar gyfer 182 disgybl (167 ar hyn o bryd). O ganlyniad, ni fyddai angen cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth addysgol gan na fydd derbyn 15 disgybl ychwanegol yn mynd tu hwnt i’r capasiti.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt egwyddor, lleoliad, graddfa, dwysedd, mwynderau gweledol / preswyl, diogelwch ffyrdd a materion isadeiledd ac yn unol â’r polisïau perthnasol.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·           Bod y cais eisoes wedi cael ei adnabod  fel un addas ac wedi ei ganiatáu yn 2014

·           Ei fod wedi ei leoli o fewn y Cynllun Datblygu

·           Oherwydd cyfnod heriol yn y maes adeiladu nid oedd y datblygwr wedi gallu gweithredu o fewn y cyfnod ac felly yn gwneud cais am estyniad amser

·           Nad oedd dim addasiadau i’r cais gwreiddiol

·           Y byddai’r datblygwr yn defnyddio contractwyr lleol a deunyddiau lleol

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·            Bod angen tai yng Nghaeathro

·            Ei fod yn gefnogol i’r datblygiad

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(d)       Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phryderon llifogydd ar y safle, amlygwyd bod y Swyddogion Cynllunio wedi ymgynghori gyda Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yn fodlon gyda’r mesurau lliniaru a’r amodau perthnasol oedd wedi ei cynnig

 

(dd)  Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen statudol i ddarparu safle chwarae saff ac nad oedd mynegi bod gerddi preifat y tai newydd yn ymateb digonol i hynny, amlygwyd bod y Swyddogion Cynllunio wedi ymgynghori gyda’r swyddogion perthnasol oedd yn cadarnhau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8


Cyfarfod: 29/04/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C18/0993/26/LL - Tir ger Hen Gapel, Ffordd Waunfawr, Caeathro, Caernarfon pdf eicon PDF 131 KB

Diwygio amod rhif 1 o ganiatad cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Edgar Wyn Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diwygio amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol.

        

(a)     Adroddwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn gan yr Uned Iaith, gofynnwyd i’r Pwyllgor ohirio’r cais i gyfarfod 20 Mai 2019 er mwyn rhoi cyfle i’r swyddogion cynllunio rhoi ystyriaeth i’r sylwadau ac ymdrin â hwy.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.