8 Cais Rhif C18/0993/26/LL - Tir ger Hen Gapel, Ffordd Waunfawr, Caeathro, Caernarfon PDF 136 KB
Diwygio amod rhif 1 o ganiatad cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Edgar Wyn Owen
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Diwygio amod rhif 1 o ganiatâd
cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r
gwaith am 5 mlynedd ychwanegol
(a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei
ohirio ym Mhwyllgor 29.4.19 er mwyn caniatáu i’r Swyddogion Cynllunio ystyried
sylwadau hwyr yr Uned Iaith.
Amlygwyd bod y cais yn ei gyfanrwydd wedi ei leoli
oddi fewn i ffin datblygu Caeathro fel y’i cynhwysir yn y CDLl mewn man gweddol
amlwg yng nghanol y pentref. Nodwyd nad oedd dyluniad, edrychiadau, deunyddiau,
cynllun na ffurf y tai wedi newid ers i’r cais blaenorol gael ei ganiatáu yn
2014 ac felly ystyriwyd fod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol.
Adroddwyd bod y datblygiad yn cynnwys 4 tŷ
fforddiadwy sydd yn gyfystyr a 33%. Gan nad oedd prisiad swyddogol er mwyn
sefydlu pris marchnad agored y tai wedi ei dderbyn nodwyd y byddai angen i’r
datblygwr gytuno ar y pris gyda’r Adran Cynllunio er mwyn pennu disgownt
priodol ar gyfer y tai fforddiadwy. Amlygwyd y gellid gwneud hynny drwy amod
priodol fyddai yn sicrhau tai fforddiadwy.
Wrth ystyried materion darpariaeth addysgol rhagwelwyd
y byddai cyfanswm o 15 disgybl ysgol gynradd yn deillio o’r cais yma ar gyfer
12 tŷ, ynghyd â datblygiad arall gan yr ymgeisydd ym Mhontnewydd am 29 o
dai. Amlygwyd bod Ysgol Bontnewydd, sef
yr ysgol ddalgylch, gyda chapasiti ar gyfer 182 disgybl (167 ar hyn o
bryd). O ganlyniad, ni fyddai angen cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth
addysgol gan na fydd derbyn 15 disgybl ychwanegol yn mynd tu hwnt i’r capasiti.
Ystyriwyd bod y
bwriad yn dderbyniol o safbwynt egwyddor, lleoliad, graddfa, dwysedd, mwynderau
gweledol / preswyl, diogelwch ffyrdd a materion isadeiledd ac yn unol â’r
polisïau perthnasol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y cais eisoes wedi cael ei adnabod fel un addas ac wedi ei ganiatáu yn 2014
·
Ei fod wedi ei leoli
o fewn y Cynllun Datblygu
·
Oherwydd cyfnod
heriol yn y maes adeiladu nid oedd y datblygwr wedi gallu gweithredu o fewn y
cyfnod ac felly yn gwneud cais am estyniad amser
·
Nad oedd dim
addasiadau i’r cais gwreiddiol
·
Y byddai’r datblygwr
yn defnyddio contractwyr lleol a deunyddiau lleol
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr
aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod
angen tai yng Nghaeathro
·
Ei fod yn gefnogol i’r datblygiad
(ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
(d) Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phryderon llifogydd ar y safle, amlygwyd bod y Swyddogion
Cynllunio wedi ymgynghori gyda Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yn
fodlon gyda’r mesurau lliniaru a’r amodau perthnasol oedd wedi ei cynnig
(dd) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen statudol i ddarparu safle chwarae saff ac nad oedd mynegi bod gerddi preifat y tai newydd yn ymateb digonol i hynny, amlygwyd bod y Swyddogion Cynllunio wedi ymgynghori gyda’r swyddogion perthnasol oedd yn cadarnhau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8
6 Cais Rhif C18/0993/26/LL - Tir ger Hen Gapel, Ffordd Waunfawr, Caeathro, Caernarfon PDF 131 KB
Diwygio amod rhif 1 o ganiatad cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Edgar Wyn Owen
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Diwygio amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio
C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5
mlynedd ychwanegol.
(a) Adroddwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn
gan yr Uned Iaith, gofynnwyd i’r Pwyllgor ohirio’r cais i gyfarfod 20 Mai 2019
er mwyn rhoi cyfle i’r swyddogion cynllunio rhoi ystyriaeth i’r sylwadau ac
ymdrin â hwy.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais.