9 CYFARWYDDWR RHAGLEN BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU PDF 75 KB
Adroddiad
gan Dilwyn Williams, Cyngor Gwynedd
(ynghlwm).
Penderfyniad:
Penderfynwyd
fod:
I.
Cyfarfod sydd wedi
ei amserlenu o’r
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cytuno ar restr fer o
ymgeiswyr i’w gwahodd ar gyfer ystyriaeth bellach.
II.
Pob ymgeisydd ar y
rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu Canolfan Asesu Broffesiynol. Bydda’i
Ganolfan Asesu yn cael ei harwain gan asesydd allanol a ddefnyddir gan y Corff
Atebol ar gyfer penodi i uwch swyddi. Bydd yr asesydd yn darparu adroddiad
ysgrifenedig ar berfformiad pob ymgeisydd.
III.
Cyfweliad
ffurfiol gyda phob ymgeisydd ar y rhestr fer mewn cyfarfodydd ychwanegol o’r
Bwrdd i’w drefnu gydag adborth o’r Ganolfan Asesu i’w ddarparu yn y cyfarfod
cyn gwneud y penodiad.
IV.
Cytunwyd,
yn dilyn asesiad swydd, y bydd y swydd yn cael ei hysbysebu gyda’r cyflog o
£86,000 i £96,000, gyda’r hyblygrwydd o ychwanegiad y farchnad os y byddai
ymgeisydd arbennig yn ymgeisio.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Dilwyn
Williams - Prif Weithredwr Corff Atebol
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd fod:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y Bwrdd wedi nodi eisoes eu bod yn awyddus i benodi mor
fuan a bod modd ac i sicrhau fod y broses recriwtio yn effeithiol a gwydn.
Nodwyd fod y swydd bellach wedi ei arfarnu yn dilyn trefn Cyngor Gwynedd ac mae
wedi arfarnu’r swydd a’r gyflog o £86,000 i £96,000.
Tynnwyd sylw ar y
drefn recriwtio gan holi’r camau mae’r Bwrdd am ei gymryd o ran hysbytsebu a
creu rhestr fer.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth
-
Mynegwyd fod y cyflog yn deg, ond ategwyd yr angen isod yn hyblyg
gyda’r cyflog a nodwyd y byddai ystyriaeth i
ychwanegiadau’r farchnad os byddai ymgeisydd arbennig yn ymgeisio.
-
Nodwyd fod angen i’r Bwrdd Uchelgais greu’r rhestr fer mewn
cyfarfod sydd wedi ei amserlennu yn barod.