8 DIWEDDARIAD AR RAGLEN WAITH Y BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD PDF 169 KB
Adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyngor
Gwynedd (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo
statws RAG (Red, Amber, Green) pob tasg o fewn y Rhaglen Waith gan nodi fod dau
weithred o’r adran Penawdau’r Telerau sydd yn cael ei nodi yn isod yn newid o
liw melyn i goch.
·
Sesiynau
Herio gyda Gweinidigoion o Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru
·
Cymeradwyaeth
ffurfiol i Benawdau’r Telerau ar gyfer Cynllun Twf.
Addasu’r amserlen a’r
cyfrifoldeb ar gyfer rhai tasgau yn y Rhaglen Waith, yn unol â’r eglurhad yn
rhan 4.3 a 4.4 o’r adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo statws RAG (Red,
Amber, Green) pob tasg o fewn y Rhaglen Waith gan nodi fod dau weithred o’r
adran Penawdau’r Telerau sydd yn cael ei nodi yn isod yn newid o liw melyn i
goch.
Addasu’r
amserlen a’r cyfrifoldeb ar gyfer rhai tasgau yn y Rhaglen Waith, yn unol â’r
eglurhad yn rhan 4.3 a 4.4 o’r adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod
yn manylu ar statws pob elfen o’r rhaglen waith. Ychwanegwyd fod y statws RAG
(Red, Amber, Green) yn amlygu barn y Grŵp Gweithredu. Tynnwyd sylw at
dasgau sydd wedi eu hamserlennu ar gyfer Chwarter 1, ond na fydd yn cael eu
cwblhau o fewn yr amserlen, un o’r rhain oedd sesiynau herio gyda Gweinidogion
o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nodwyd fod angen sicrwydd fod y
cyfarfodydd herio yma yn cael eu cynnal.
Mynegwyd fod cais wedi ei gyflwyno i
gyflwyno prosiect i’r LFFN (Local Full Fibre Network) sydd bellach wedi ei
gymeradwyo a bod cynlluniau yn eu lle er mwyn dod o hyd i arian ychwanegol.
Ategwyd fod gwaith cyson yn cael ei wneud i’r ddogfen a bydd y Cyfarwyddwr
Arweiniol yn adrodd i’r Bwrdd i fod yn gwbl agored os oes unrhyw lithriad yn
digwydd i brosiectau.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd fod yr adroddiad yn dangos y datblygiad a rhwystrau o fewn
y Cynllun.
-
Nodwyd mai’r prif bryder yw’r amserlen ar gyfer cymeradwyaeth
ffurfiol i Benawdau’r Telerau, a'r rhwystredigaeth mae hynny yn ei greu i’r
Bwrdd. Ategwyd ei bod yn syniad i’r lliw newid o felyn ar gyfer y pwynt yma i
goch er mwyn sicrhau fod amserlen yn ei le. Mynegwyd y byddai’n syniad anfon
llythyr at y ddau Lywodraeth yn rhoi amserlen y Bwrdd Uchelgais i gyflwyno'r
Penawdau’r Telerau iddynt.
-
Mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei gynnal ar gyfer lleoliad
Trawsfynydd a nodwyd y byddai’n bosib i'r cynllun hwn gael trefn lywodraethol
wahanol i eraill. Er trafodaethau i ddatblygu Trawsfynydd nodwyd fod angen
cefnogi Wylfa yn ogystal, o ran lleoliad a chyfleoedd.