Adroddiad
gan Dafydd Edwards, Cyngor
Gwynedd (ynghlwm).
Penderfyniad:
I.
Derbyn a
mabwysiadu Cyllideb y Bwrdd Uchelgais Economaidd ar gyfer 2019/20, wedi’i rannu
rhwng costau’r Swyddfa Rheoli Rhaglen, Gwasanaethau Cefnogol y Corff Atebol a’r
Cydbwyllgor.
II.
Cymeradwyo’r
trefniadau ac ariannu i Gyngor Gwynedd gyflawni swyddogaethau’r Corff Atebol,
fel y nodir yn yr adroddiad.
III.
Dirprwyo’r
awdurdod i’r Cyfarwyddwr Rhaglen a Swyddog Adran 151 Cyngor Gwynedd i
weithredu’r gyllideb a gymeradwyir.
IV.
Cymeradwyo i
drosglwyddo’r tanwariant o’r cyn trefniadau cysgodol i Gydbwyllgor y Bwrdd
Uchelgais Economaidd.
V.
Cymeradwyo i
drosglwyddo’r tanwariant ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018/19 i gronfa wrth gefn
neilltuol, fydd ar gael i ariannu costau un-tro yn y dyfodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Dafydd Edwards
PENDERFYNIAD
I.
Derbyn a mabwysiadu Cyllideb y Bwrdd Uchelgais Economaidd ar gyfer
2019/20, wedi’i rannu rhwng costau’r Swyddfa Rheoli Rhaglen, Gwasanaethau
Cefnogol y Corff Atebol a’r Cydbwyllgor.
II.
Cymeradwyo’r trefniadau ac ariannu i Gyngor Gwynedd gyflawni
swyddogaethau’r Corff Atebol, fel y nodir yn yr adroddiad.
III.
Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Rhaglen a Swyddog Adran 151 Cyngor
Gwynedd i weithredu’r gyllideb a gymeradwyir.
IV.
Cymeradwyo i drosglwyddo’r tanwariant o’r cyn trefniadau cysgodol
i Gydbwyllgor y Bwrdd Uchelgais Economaidd.
V.
Cymeradwyo i drosglwyddo’r tanwariant ar ddiwedd blwyddyn ariannol
2018/19 i gronfa wrth gefn neilltuol, fydd ar gael i ariannu costau un-tro yn y
dyfodol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi'r angen cymeradwyo’r gyllideb ac yr argymhelliad a
gyflwynwyd. Nodwyd mai 2019/20 fydd y flwyddyn gyllideb lawn gyntaf y
Cydbwyllgor a tynnwyd sylw penodol i benawdau yn y gyllideb. Nodwyd mai dim ond
tair swydd sydd wedi ei hariannu ar gyfer cost Swyddfa Rheoli Rhaglen a fod
ychydig o gyllideb ar gael ar gyfer Eiddo. Mynegwyd, gan nad oes penderfyniad
wedi ei wneud am leoliad y Swyddfa Rheoli Rhaglen, gall costau newid yn unol â
hynny. Ychwanegwyd fod y gyllideb ar gyfer y gost Swyddfa Rheoli Rhaglen yn
rhagdybio y bydd angen prynu gwasanaeth i mewn ar gyfer cynllunio a datblygu
prosiectau.
Mynegwyd
fod y gost ar gyfer Gwasanaethau Cefnogol y Corff Atebol yn ffigwr ceidwadol, a
bod nifer uchel o’r cyllideb yn mynd tuag at yr adran Gyllid. Yn y gyllideb
hon, ategwyd, fod costau technoleg gwybodaeth ar gyfer cyfarpar a chefnogaeth
technoleg gwybodaeth i’r tair swydd yn Swyddfa Rheoli Raglen. Ychwanegwyd y
gall costau newid yn ddibynnol ar y lleoliad ac ati.
Nodwyd
fod Cyfraniadau Partneriaid (Eraill) yn gyfraniad y chwe Cyngor, mynegwyd fod
newid mewn pennawd er mwyn symlhau’r gyllideb. Gofynnwyd i fabwysiadu’r
gyllideb fel bod modd symud ymlaen.
Sylwadau’n
Codi o’r drafodaeth
-
Gofynnwyd
am ddadansoddiad manwl o gostau cefnogaeth y Gwasanaeth Cyllid, gan fod y
ffigwr o £105,000 yn ymddangos yn uchel. Nodwyd y bydd copi manwl yn cael ei
anfon at yr aelodau yn y dyddiau nesaf.
-
Holwyd
am adroddiad am gost haen uchaf pob penawd, i sicrhau fod y lefel ar gael ar
gyfer yr haen uchaf yn gywir, ond mynegwyd y bydd mwy o eglurdeb am y mater pam
yn edrych ar y modelau achosion busnes yn ystod y tri mis nesaf.