Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 15/03/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 6)

6 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - CYNLLUN GWEITHREDU DRAFFT pdf eicon PDF 184 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyngor Gwynedd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu fel sail ar gyfer trafodaethau pellach gyda

Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gytundeb Penawdau’r Telerau Posib ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru yn ddarostynedig i’r addasiadau isod yn cael eu ymgorffodi yn y Cynllun:

1.    Hyblygrwydd o ran amerlenu, proffilio gwariant a blaenoriaethu prosiectau yn Rhan 7 o’r Cynllun Gweithredu ar sail eu haeddfedrwydd a’u fforddiadwyedd.

2.    Hyblygrwydd ar y pecyn cyllideb gan y ddwy Lywodraeth ar gyfer gweithredu’r prosiectau yn y Cynllun Gweithredu.

3.    Ychwanegu amserlen ar gyfer sefydlu Gorffennaf 2019 fel y dyddiad ar gyfer cytuno  Pennawdau’r Telerau i’r naill Lywodraeth.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas y Cynllun Gweithredu yw amlygu cynnig y Bwrdd Uchelgais yngyd ag amlygu cyd-destun ynghyd a gweledigaeth TWF. Mynegwyd fod y ddogfen wedi ei greu drwy gydweithrediad ac wedi ei gymeradwyo gan y Grŵp Gweithredol. Ategwyd fod y cynllun yn dod a’r prif faterion at ei gilydd gan gynnwys amserlen y cynlluniau, cynlluniau busnes amlinellol a threfniadau swyddfa raglen. Esboniwyd y bydd y Cynllun Gweithredu yn amlygu i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fod y cynlluniau yn gyffroes a bod trefn effeithiol yn y rhanbarth.

Tynnwyd sylw at Wylfa gan nodi fod y Cynllun yn rhoi ystyriaeth lawn i Wylfa ynghyd a’r camau nesaf fydd angen eu cymryd. Ychwanegwyd fod rôl busnesau i’w gweld yn y Cynllun yn llawn bellach gyda Phencampwr o’r Sector Fusnes i’w gweld ym mhob prosiect.

Nodwyd fod y Cynlluniau Busnes Amlinellol yn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer yr holl brosiectau yn rhan o’r Cynllun Gweithredu. Nodwyd fod cyfarfod wedi cael ei gynnal wythnos diwethaf gyda’r Gweithdy Busnes Gogledd Cymru i drafod yr holl brosiect gan nodi’r deilliannau a phryderon gan amlygu’r cyd-gysylltu a fydd rhwng y Sector Breifat a’r Bwrdd Uchelgais. Yn ychwanegol at hyn pwysleisiwyd yr angen i symud ymlaen gyda rhai prosiectau.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd cyfarfod oedd wedi ei gynnal gyda’r Grŵp Cyflawni Busnes Gogledd Cymru ac amlinellwyd y drafodaeth adeiladol a gafwyd yno. Mynegwyd fod aelodau’r grŵp yn teimlo yn bositif fod llawer o’r gwaith wedi ei wneud. Nodwyd fod angen codi momentwm a datblygu cynlluniau, gan nodi pwysigrwydd datblygu swyddi yn y blynyddoedd cyntaf. Wrth edrych ar y gyllideb, mynegwyd fod y Grŵp yn hapus fod mwy o arian yn mynd at gyflawni y thema Safleoedd ac Eiddo.  Ategwyd y bydd angen mwy o arian ar gyfer cyflawni’r thema Digidol. Amlinellwyd fod busnesau allweddol bellach yn rhan o’r cynllun ac felly roedd y Grŵp yn  credu nad oedd angen ail fwrdd ymgynghorol. Pwysleisiwyd fod gwaith pellach angen ei wneud i gyfathrebu ac adeiladu ar yr hyder sydd i’w gweld yn y rhanbarth.

-        Ychwanegwyd balchder fod busnesau eisiau bod yn rhan o’r cynllun, rhywbeth oedd wedi codi pryder ar ddechrau’r cynllun.

-        Trafodwyd yr angen i brosiectau bellach symud yn eu blaenau er mwyn cadw hygrededd yr holl gynllun. Mynegwyd fod sialensiau am godi ond angen dangos arweinyddiaeth glir i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6