5 LLYWODRAETHU BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU PDF 224 KB
Adroddiad
gan Iwan Evans, Cyngor Gwynedd
(ynghlwm).
Penderfyniad:
Penderfynwyd i:
1. Derbyn yr adroddiad
2.
I dderbyn y
bydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru cyn belled y mae’n rhesymol bosib
yn cyfarfod mewn un lleoliad priodol yng Ngogledd Cymru yn ôl unol a’r
adroddiad.
3.
Yn ddarostyngedig
i sefydlu Bwrdd Arweinyddion Busnes ffurfiol. I benodi Cadeirydd y Grwp Busnes
Gogledd Cymru fel Ymgynghorydd i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a chadarnhau
strwythur Ymgynghorwyr.
4.
Fod adroddiad
pellach ar yr Is fyrddau arfaethedig yn cael eu cyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
5. I dderbyn Protocol
Gweithredol ar gyfer y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn
ddarostyngedig i gadarnhadu hawl i’r
Swyddog Monitro ac i’r Swyddog Adran 151 i adrodd yn unigongyrchol i’r Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pe cyfyd angen.
Cofnod:
Cyflwynwyd
gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd i:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
ddatgan mai ei brif fwriad yw i symud y rhaglen Lywodraethu yn ei blaen. Cafwyd
trafodaeth am yr argymhellion yn y penderfyniad yn unigol.
Trafodwyd lleoliad priodol ar
gyfer cyfarfodydd gyda’r bwriad o gael lleoliad canolog, nodwyd fod lleoliad
wedi ei drefnu ar gyfer y cyfarfodydd nesaf yng Nghonwy. Mynegwyd na fydd amser
yn cael ei nodi yn y protocol ond yn hytrach fod penderfyniad y bydd y cyfarfod
yn anelu i gychwyn am 1y.h. gan bwysleisio fod hyblygrwydd o ran amser. Trafodwyd penodi Cadeirydd y Gweithdy Busnes
Gogledd Cymru fel ymgynghorydd i’r Bwrdd Uchelgais, a cytunwyd ar hyn.
Nodwyd o’r themâu allweddol fod
Trafinidaieth a’r Cynllun Digidol wedi eu blaenoriaethu fel ys is-bwyllgorau
cyntaf i gael eu ffufio. Ychwanegwyd fod angen trafodaeth bellach ar y mater er
mwyn cael cynlluniau i sefydlu’r is-bwyllgorau o ran aelodaeth ac adrodd yn ôl
i’r Bwrdd Uchelgais.
Tynnwyd sylw at y Protocol
Gweithredol ar gyfer y Cydbwyllgor sydd yn gosod sylfaen ac amserlen ar gyfer
cyfarfodydd ac adroddiadau ynghyd a gosod sicrwydd ar gyfer cyfeiriad y Bwrdd.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
-
Cafwyd trafodaeth am y themâu allweddol sydd yn cael eu
blaenoriaethu, mynegwyd fod angen trafodaeth bellach yn y grŵp gweithredol
ac ystyried amserlen.
-
Tynnwyd sylw at adroddiadau y Bwrdd Uchelgais yn cael ei
gyflwyno i’r Grŵp Gweithredol bythefnos cyn y cyfarfod, gan nodi na ddylid
adroddiadau gan y Swyddog Monitro nac y Swyddog Adran 151 gael eu cynnwys yn y
drefn ac y bydd modd iddynt hwy gyflwyno eu hadroddiadau yn uniongyrchol i’r
Bwrdd.