skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C14/0386/24/LL Tir yng nghefn Tan y Celyn, Swn y Mor a Talardd, Llanwnda, Caernarfon pdf eicon PDF 162 KB

Adnewyddu caniatad rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais     yng      nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd Ionawr 2018 er mwyn trafod pryderon yr Aelodau gyda’r    ymgeisydd, oedd yn ymwneud â lleoliad y llecyn   agored o fewn  y safle. Yn ychwanegol,        ymgynghorwyd ymhellach gyda          Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities (nwy) ynghyd â’r   Uned Rheolaeth          Adeiladu ar sail addasrwydd lleoli’r llecyn agored yn y safle bwriadedig.      Derbyniwyd barn Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Cyngor o ran sicrwydd diogelwch.       Nodwyd bod y cais yn parhau            i gynnwys 24 tŷ gyda 12     o’r tai yn rhai fforddiadwy ac     amlygwyd bod yr angen am dai wedi ei         gadarnhau.

 

          Amlygwyd pryder am y pellteroedd rhwng y tai, a chyfeiriwyd at   ymateb  ym          mharagraffau 5.9 i 5.11 o’r adroddiad. O safbwynt tai fforddiadwy, er mai         landlord cofrestredig fydd yn rheoli datblygiad, bydd angen sicrhau y byddai’r           12 tŷ yn fforddiadwy am byth ac felly             angen amod priodol i hyn. Nodwyd bod y             bwriad yn un anarferol, ond y datblygiad yn cynnwys cymysgedd addas o dai       fydd yn diwallu'r angen am dai gwahanol yn yr ardal.       Ategwyd bod datblygiad         o’r fath yn un i’w groesau.

 

          Adroddwyd, mewn ymateb i’r prif bryder, sef lleoliad y llecyn agored, cynhaliwyd                 trafodaethau           pellach gyda’r ymgeisydd. Ategwyd bod swyddogion wedi ail             ymgynghori gyda Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities (nwy) ynghyd a’r     Uned   Rheolaeth Adeiladu ac Ymgynghorydd          Iechyd a Diogelwch y                Cyngor ac roedd yr ymatebion yn parhau i gadarnhau bod y            datblygiad yn           cydymffurfio gyda holl ofynion y cyrff ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad i leoliad y llecyn agored. Ategwyd mai anodd felly fyddai gwrthod y cais oherwydd    bod y   dystiolaeth yn groes i hyn. Nodwyd bod apêl wedi ei     gyflwyno          gan yr ymgeisydd  ar sail diffyg penderfyniad gan y Pwyllgor, ac felly tynnwyd           sylw mai cyfnod byr oedd          gan y   Pwyllgor i wneud penderfyniad er mwyn       osgoi apêl (hyn yn unol â threfniadau’r     Arolygaeth Cynllunio).

 

          Roedd y swyddogion yn parhau i ystyried  bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt    polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nad oedd yn anghytuno gyda’r egwyddor bod angen tai ar y safle, ond nid yn ei ffurf bresennol. Lleoliad y llecyn chwarae yn achosi pryder

·         Yr ymgeisydd wedi cael cyfle i addasu'r cynlluniau yn unol â sylwadau a phryderon y Pwyllgor ar gymuned leol ond wedi dewis anwybyddu hyn

·         Bod y llecyn agored wedi ei leoli ger y rheilffordd ac er bod yr asiant yn nodi y byddai codi ffens atal dringo, byddai plant yn darganfod ffordd o fynd drosodd neu o amgylch;

·         Bod y llecyn agored gerllaw is-orsaf nwy  - y lleoliad yn peryglu diogelwch plant

·         Bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6


Cyfarfod: 14/01/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C14/0386/24/LL - Tir yng nghefn Tan y Celyn, Swn y Mor a Talardd, Llanwnda, Caernarfon pdf eicon PDF 155 KB

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018 i alluogi gwrthwynebwr i siarad ar y cais ac er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Eglurwyd bod y cais gwreiddiol wedi ei ganiatáu gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2015. Nodwyd oherwydd bod yr ymgeisydd wedi oedi wrth arwyddo cytundeb cyfreithiol, mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) yng Ngorffennaf, 2017 ac o ganlyniad roedd newid yn y sefyllfa bolisi. Roedd y cais wedi ei asesu yn unol â’r polisïau cyfredol.

 

Nodwyd bod y cais ar gyfer 24 tŷ gyda 12 o’r tai yn rhai fforddiadwy. Amlygwyd bod yr angen am dai marchnad agored a thai fforddiadwy wedi ei gadarnhau gan y cyrff perthnasol, a bod y polisïau yn cefnogi hyn, felly ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Tynnwyd sylw bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos ar sail colli preifatrwydd, aflonyddwch sŵn a chreu strwythurau gormesol. Eglurwyd bod pellter amrywiol o 23-31 medr rhwng cefnau’r tai presennol a chefnau’r tai bwriadedig a chredir fod y gwagle hwn ynghyd â llystyfiant presennol a dyluniad/lleoliad y tai arfaethedig yn dderbyniol ar sail gwarchod preifatrwydd rhesymol a gor-edrych.

 

Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau a dderbyniwyd gan ddeiliaid lleol parthed y cynnydd mewn trafnidiaeth a’r diffyg llwybrau troed, er yn cydnabod y gwrthwynebiadau, nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r trefniant bwriadedig yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol. Nodwyd bod y bwriad hefyd yn dderbyniol ar sail paratoi cyfleusterau parcio, teithio a mynediad i’r tai eu hunain ac yn hygyrch ar sail ei leoliad.

 

Nodwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau bod maint y llecyn agored ar gyfer y datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi ISA5 o’r CDLl ynghyd â chydymffurfio gyda gofynion Canllaw Cynllunio Atodol: Datblygiadau Tai a Llecynnau Agored o Werth Adloniadol. Er bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos i leoliad y llecyn agored, credir bod ei leoliad yn dderbyniol gan ystyried bod goruchwyliaeth naturiol o’r llecyn gan nifer helaeth o dai o fewn y datblygiad ac ni ellir gwneud defnydd amgen o’r rhan yma o’r safle, gan ystyried y cyfyngiadau adeiladu oherwydd ei agosatrwydd at yr is-orsaf nwy a’r gwaith trin carthion arfaethedig. Ymhelaethwyd pe adleolir y llecyn agored, ni ellir datblygu lleoliad presennol y llecyn agored ar gyfer tai, gan olygu gostyngiad yn y nifer o dai ar y safle, ac y gallai hyn olygu ni fyddai’r datblygiad yn hyfyw.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 17/12/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C14/0386/24/LL - Tir yng nghefn Tan y Celyn, Swn y Mor a Talardd, Llanwnda, Caernarfon pdf eicon PDF 155 KB

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD AERON MALDWYN JONES

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

Amlygwyd bod asiant y gwrthwynebwyr wedi ei daro yn wael ac felly cynigiwyd gohirio y cais. Awgrymwyd hefyd y byddai ymweld â’r safle yn fuddiol.

 

PENDERFYNWYD gohirio gan raglennu’r cais ar gyfer Pwyllgor 14.1.19 a threfnu ymweliad safle