10 YMGYNGHORIAETH YR AWDURDOD TAN PDF 79 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bu i’r Cabinet adnabod egwyddorion ar
gyfer ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan Awdurdod Tan ac Achub Gogledd
Cymru, a phenderfynwyd y bydd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn llunio ymateb
llawn i’r ymgynghoriad o fewn yr amserlen.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn
PENDERFYNIAD
Bu i’r Cabinet adnabod egwyddorion ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad
cyhoeddus gan Awdurdod Tan ac Achub Gogledd Cymru, a phenderfynwyd y bydd yr
Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn llunio ymateb llawn i’r ymgynghoriad o fewn yr
amserlen.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
Awdurdod Tan wedi bod yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor Llawn yn trafod eu
hymgynghoriad cyhoeddus. Ychwanegwyd cyd-destun yr ymgynghoriad yw, gan fod yr
Awdurdod dan bwysau ariannol, yw cynyddu’r ardoll o 6%.
Ychwanegodd yr Aelod Etholedig sydd yn
cynrychioli’r Cyngor ar yr Awdurdod Tan fod yr awdurdod dan bwysau yn ariannol
a bod angen dod o hyd i £1.9miliwn os bydd y gwasanaeth yn parhau ar yr un
lefel. Ychwanegwyd os na fydd yr Awdurdod yn dod o hyd i’r arian ychwanegol
bydd angen lleihau'r gwasanaeth sydd ar gael. Ategwyd fod yr ymgynghoriad yn
ysgogi trafodaeth o beth yw gwerth y gwasanaeth, ac os yw’r cyhoedd am barhau
ar yr un lefel o wasanaeth neu leihau. Nodwyd drwy godi’r ardoll o 6% gall
olygu 0.5% ychwanegol ar y dreth Cyngor.
Esboniwyd fod y setliad sydd wedi ei
gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi nodi gostyngiad i’r Cyngor a all
olygu y y bydd angen i’r Cyngor ddod o hyd i fwlch ariannol o hyd at
£13miliwn yn ystod 2019/20. Pwysleisiwyd y bydd unrhyw doriadau yn gwneud
gwahaniaeth mawr i lefel y gwasanaeth sydd ar gael i drigolion Gwynedd.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd
fod y gwaith mae’r Awdurdod tan yn waith gwych ond teimlwyd fod angen i’r
Awdurdod wneud gwaith pellach yn edrych ar arbedion effeithlonrwydd.
Awdur: Dilwyn Williams