Mater - cyfarfodydd
Cyfarfod: 05/11/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)
5 Cais Rhif C18/0780/20/LL - Fferm Plas Llanfair, Ffordd Caernarfon, Y Felinheli PDF 144 KB
Dogfennau ychwanegol:
- Cynlluniau, eitem 5 PDF 594 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cais Rhif C18/0780/20/LL - Fferm Plas Llanfair, Ffordd Caernarfon, Y Felinheli
Cofnod:
Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt
bugail ynghyd a cwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod
C18/0393/20/LL).
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15
Hydref 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld
â’r safle cyn y cyfarfod.
Nodwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor ar sail
ei leoliad, graddfa a’i effaith andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal leol.
Eglurwyd bod safle’r cais yng nghornel cae agored ei natur
ar yr arfordir ger glannau’r Fenai. Nodwyd er gwaethaf nad oedd yr ardal gyfagos
wedi ei chydnabod na’i dynodi fel tirlun arbennig, credir byddai’r bwriad yn
parhau i amharu’n andwyol ar gymeriad a naws agored y tirlun/parcdir lleol gan
y byddai’n creu datblygiad ymwthiol o fewn tirwedd cefn gwlad.
Argymhellwyd gwrthod y cais ar sail effaith andwyol ar
fwynderau gweledol ynghyd ag effaith andwyol y datblygiad arfaethedig ar
fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid cyfagos.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei bod yn cynrychioli
grŵp o 7 tŷ yn Llanfair Hall;
·
Bod lleoliad yr unedau wedi eu
symud ychydig o gymharu â’r cais gwreiddiol ond byddent yn parhau i fod yn
ddolur ar y dirwedd agored;
·
Byddai’r bwriad yn cael
effaith ar fywyd gwyllt a bioamrywiaeth;
·
Pryder o ran yr effaith ar
dawelwch yr ardal;
·
Pryder o ran yr effaith ar
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn;
·
Byddai caniatáu’r cais yn
gosod cynsail o ran datblygiadau o’r fath ar lannau’r Fenai.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Ei fod wedi cefnogi’r cais yn
y cyfarfod blaenorol a’i fod yn parhau i fod yn gefnogol i’r cais;
·
Mai ar fore’r cyfarfod
cysylltodd trigolion Llanfair Hall gydag ef;
·
Byddai’r datblygiad oddeutu
130 medr i ffwrdd o’r tai;
·
Tymhorol oedd yr unedau a
byddent yn cael eu symud;
·
Bod y bwriad yn cyd-fynd gyda
pholisïau twristiaeth ac economaidd;
·
Byddai’r unedau yn cael eu
sgrinio gan y coed a ni fyddent yn cael effaith ar y trigolion;
·
Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth
yn gwrthwynebu’r bwriad;
·
Ar ddeall mai ail-dŷ oedd
yr agosaf i’r datblygiad;
·
Gofyn i’r Pwyllgor dderbyn yr
hyn a nodwyd gan yr ymgeisydd yn y cyfarfod blaenorol a chefnogi pobl leol.
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Er yn cydymdeimlo efo’r
ymgeisydd, roedd y datblygiad yn y lleoliad anghywir. Dylai’r ymgeisydd drafod
efo’r swyddogion os oedd safle gwell ar eu tir a oedd yn llai gweladwy;
·
Pryder o ran effaith y
datblygiad ar dŷ cyfagos, roedd y ffaith ei fod yn ail-dŷ yn
amherthnasol;
·
Byddai gwrych uwch yn
effeithio ar yr olygfa;
· Gwerthfawrogiad o’r ymweliad safle lle gwelwyd agosatrwydd y safle i’r tŷ agosaf. Yn hoff o’r cytiau bugail, yn bechod na ellir diwygio’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
Cyfarfod: 15/10/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)
5 Rhif Cais C18/0780/20/LL - Fferm Plas Llanfair, Ffordd Caernarfon, Y Felinheli PDF 140 KB
Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a cwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL)
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gareth Wyn Griffith
Dogfennau ychwanegol:
- Cynlluniau, eitem 5 PDF 2 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhif Cais C18/0780/20/LL - Fferm Plas Llanfair, Ffordd Caernarfon, Y Felinheli
Cofnod:
(a) Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a chwt
cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL)
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cytiau bugail ynghyd a chwt
cawod. Ategwyd y byddai’r bwriad hefyd yn golygu plannu coed a llwyni ynghyd a
chreu llecyn parcio. Amlygwyd bod y cais yn gynllun diwygiedig i’r un a
wrthodwyd ym mis Mehefin 2018 o dan yr hawliau dirprwyedig oherwydd bod yr
unedau gwyliau wedi eu lleoli mewn llinell oddi fewn i’r safle cais. Gosodir y
cytiau ar ffurf hanner cylch yn y cynllun diwygiedig.
Eglurwyd bod y safle yn sefyll ar lecyn o dir sydd yng
nghornel cae amaethyddol gyda golygfeydd agored tua’r Fenai (sydd yn ardal
cadwraeth arbennig) ac Ynys Môn (gyda glannau’r Fenai wedi eu lleoli o fewn yr
AHNE). Bydd mynediad i’r safle oddiar rhwydwaith
ffyrdd preifat. Nodwyd bod tir amaethyddol ac anheddau preswyl Llanfair Hall wedu eu lleoli i’r
gogledd o’r safle ac i’r de lleolir tir amaethyddol agored ac annedd Llanfair Old Hall.
Adroddwyd bod egwyddor o sefydlu llety gwyliau dros dro
newydd wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r Cynllun Datblygu Lleol. Ategwyd bod y
math yma o ddatblygiadau yn cael eu caniatáu os gellid cydymffurfio gyda nifer
o feini prawf. Gofynnir i’r datblygiad arfaethedig fod o ansawdd uchel o ran
dyluniad, gosodiad ac edrychiad a’i fod wedi ei leoli mewn lleoliad anymwthiol.
Dengys, er bod bwriad lleoli'r datblygiad yng nghornel y cae, byddai datblygiad
o’r fath ar lecyn o dir agored ei natur a’i naws yn ddatblygiad a ystyriwyd yn
ymwthiol yn y tirlun yn creu strwythurau anghydnaws yn y tirlun agored.
Nodwyd yn hanesyddol, mai tirlun a adnabuwyd fel parcdir
fyddai y rhan yma o’r tirlun gyda chymeriad a naws agored yn perthyn iddo ac er
bod datblygiadau eraill wedi cymryd lle yn lleol, datblygiadau ar raddfa
ddomestig oeddynt yn hytrach na datblygiadau wedi eu lleoli o fewn y tirlun
agored.
Wedi ystyried natur a gosodiad diwygiedig yr unedau llety gwyliau, y
llecynnau parcio, y taclau cysylltiedig ynghyd a chyflwyno gweithgareddau dynol
o natur twristiaeth i’r tirlun byddai effaith gronnus yr elfennau hyn o’r
datblygiad yn parhau i fod yn gyfystyr a chreu datblygiad ymwthiol yn y dirwedd
a’r tirlun lleol. Dylid lleoli unrhyw gyfleusterau atodol mewn adeilad
presennol, neu, os nad yw hyn yn bosib, bod unrhyw gyfleuster newydd yn gymesur
a graddfa’r datblygiad. Ystyriwyd y byddai ychwanegu’r strwythur ymolchi a
thŷ bach i’r 4 uned llety gwyliau ddim yn gymesur a graddfa’r datblygiad
gan y byddai yn dwysau ar niferoedd yr unedau ar y safle o 20%.
Mae polisi PS14 o’r Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn adlewyrchu amcanion Polisi TWR5 ar sail graddfa a diogelu mwynderau gweledol. Atgoffwyd yr Aelodau, er i’r safle sefyll yng nghornel cae agored ei natur ar arfordir ger glannau'r Fenai er gwaethaf ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5