skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C18/0715/39/LL - 68, Cae Du, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 96 KB

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo.

 

(a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Tynnodd sylw bod asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau pellach mewn ymateb i bryderon y gwrthwynebwyr ynglŷn â dyluniad, gor-edrych a pharcio. 

 

Nododd y derbyniwyd gwrthwynebiadau yn mynegi pryder am raddfa’r estyniad ond ni ystyrir fod yr estyniad yn afresymol o ran maint a graddfa nac ychwaith yn or-ddatblygiad o’r safle oherwydd bod ardal mwynderol rhesymol yn parhau o amgylch y tŷ. O ystyried bod dyluniad y tŷ presennol yn wahanol i weddill y rhes a’r ffaith fod golygfeydd ohono mewn cyd-destun adeiledig ymysg tai o amrywiol ddyluniadau, ni ystyrir y byddai’r ymddangosiad yn cael ardrawiad arwyddocaol ar y strydwedd na thirlun yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Er yn cydnabod pryder yr aelod lleol a’r gwrthwynebwyr, ni ystyrir bod sail i wrthod y cais yn nhermau dyluniad a mwynderau gweledol.

 

Ymhelaethodd y derbyniwyd gwrthwynebiadau gan ddau o’r cymdogion o ran gor-edrych, preifatrwydd, sŵn a thywyllu. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa yn arwyddocaol, oherwydd ongl gosodiad yr eiddo ni fyddai’r ffenestri blaen newydd yn wynebu Fferm Cae Du yn uniongyrchol.

 

Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol o agwedd dyluniad, mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.

 

(b)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei ddiolchiadau am yr ymweliad safle;

·         Bod llawer o dai haf yn yr ystâd gydag addasiadau i dai i greu elw ar draul y diwylliant Cymreig a’r iaith;

·         Pryderon parcio ar yr ystâd oherwydd nifer ymwelwyr i un tŷ;

·         Y cynhelir partïon ar y ferandas gyda bwyd a diod wedi ei brynu ymlaen llaw. Nid oedd hyn o fudd i’r economi leol;

·         Nid oedd cyfeiriad at breifatrwydd yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Byddai’r bwriad yn effeithio ar breifatrwydd cymdogion.

·         Cyfeirio at baragraff A29 o Bolisi PPS7 o fewn adendwm cenedlaethol o ran pellter rhwng adeiladau er mwyn lleihau gor-edrych a galluogi goleuni naturiol i’r adeiladau. O dan baragraff A30 bod gor-edrych yn golygu o ystafell i ardd cymydog sef yr ardal 3-4 medr agosaf i’r tŷ;

·         Nid oedd y dyluniad yn cyd-fynd efo’r gofynion.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, eglurodd y Rheolwr Cynllunio ni fyddai’r bwriad yn cynyddu’r nifer o ystafelloedd gwely dim ond newid y fformat ac o ganlyniad byddai ffenestr ystafell wely bresennol yn newid i fod yn ffenestr ystafell folchi. Nododd y byddai effaith yr estyniad, o ystyried yr effaith presennol ar drigolion cyfagos, yn finimal. Tynnodd sylw bod Polisi PCYFF2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl) yn cyfarch materion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6


Cyfarfod: 15/10/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Rhif Cais C18/0715/39/LL - 68, Cae Du Estate, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 95 KB

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad deulawr gromen i sgwario blaen y tŷ, gosod ffenestr gromen a balconi ar y blaen ynghyd ac estyniad unllawr blaen i ardal y modurdy cysylltiol presennol. Eglurwyd bod yr eiddo yn sefyll  ar lethr mewn rhes o dai preswyl, yng nghornel cul de sac lled fodern Ystâd Cae Du ac yn gyfochrog a thŷ Fferm draddodiadol Cae Du.

 

Byngalo gromen oedd yr eiddo dan sylw oedd o ddyluniad ychydig yn wahanol i weddill tai gromen y rhes, sydd eisoes a balconïau blaen uwchben modurdai integredig. Nodwyd y byddai’r bwriad yn golygu llenwi cornel de ddwyreiniol i sgwario’r tŷ gydag estyniad deulawr talcen gromen a chyflwyno ffenestr gromen a balconi i’r blaen. Er nad yw talcen yn nodwedd gyffredin yn y rhes dan sylw, ceir elfennau talcenni gwydr ar dai yn y cul de sac cyfochrog o fewn yr Ystâd, felly nid yw’n nodwedd gwbl ddieithr yn y cyffiniau. Nodwyd bod gweddill y tai yn y rhes yn cynnwys balconïau blaen ac yn nodwedd gyffredin ac amlwg iawn yn nyluniad tai’r ystâd, felly nid oedd pryder sylweddol am yr ychwanegiad.

 

      Derbyniwyd bod y tŷ yn weladwy o bellter oherwydd ei leoliad uchel, fodd bynnag o ystyried fod dyluniad y tŷ presennol yn wahanol i weddill y rhes a’r ffaith fod golygfeydd ohono mewn cyd-destun adeiledig ymysg tai o amrywiol ddyluniadau, ni ystyriwyd y byddai’r ymddangosiad yn cael ardrawiad arwyddocaol ar y strydwedd na thirlun yr AHNE.      

 

      Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gymdogion ar sail goredrych, colli preifatrwydd, sŵn a thywyllu. Ystyriwyd oherwydd ongl gosodiad yr eiddo ni fyddai’r ffenestri blaen newydd yn wynebu Fferm Cae Du yn uniongyrchol. Nodwyd bod ffenestri ochr y cynnig yn cael eu newid, o ffenestri ystafelloedd gwely i ffenestri bychan ystafelloedd ymolchi felly yn hynny o beth yn welliant i’r gwrthwynebwyr ar y ddwy ochr, o’r hyn a brofir yn bresennol. 

 

      Oherwydd gwahaniaethau mewn lefel tir mae’r eiddo o flaen safle’r cais, sef byngalo 67 Cae Du, ar lefel llawer is gyda dim ond to’r adeilad yn weladwy o safle’r cais, felly ni fyddai ehangder ffenestri na’r balconi blaen yn cyfaddawdu eu preifatrwydd. Byddai golygfeydd o’r balconi yn edrych dros erddi agored a ffordd ystâd y cul de sac a dros ben to’r tŷ i’r blaen. Oherwydd gosodiad y tŷ i’r gogledd o eiddo Fferm Cae Du, a chwrs yr haul, ni ystyriwyd bod sail i’r honiad y byddai’r estyniad yn tywyllu eu heiddo.

 

      Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu o agwedd dyluniad, mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol a oedd yn gwrthwynebu’r cais y prif bwyntiau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5