9 TREFNIADAU AR GYFER CYNNAL YR ADOLYGIAD RHEOLAETHOL PDF 65 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn y syniad fod y Cabinet yn
eistedd mewn ar sesiynau herio y mae’r Prif Weithredwr yn bwriadu eu cynnal a'u
bod yn cydsynio i’r syniad o wahodd Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion y
Pwyllgorau Craffu (gan gynnwys y Pwyllgor Archwilio) i’r sesiynau hyn.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys
PENDERFYNIAD
Derbyn y
syniad fod y Cabinet yn eistedd mewn ar sesiynau herio y mae’r Prif Weithredwr
yn bwriadu eu cynnal a'u bod yn cydsynio i’r syniad o wahodd Cadeiryddion ac Is
Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu (gan gynnwys y Pwyllgor Archwilio) i’r
sesiynau hyn.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn y
Cabinet 22 Mai eleni, trafodwyd rhagolygon ar gyfer sefyllfa ariannol y Cyngor
am y cyfnod i ddod. Comisiynwyd Adroddiad Rheolaethol er mwyn ystyried a oes
angen cyfyngu mwy ar y swyddogaeth reolaethol o fewn y Cyngor.
Nodwyd fel rhan o lunio adroddiad bydd y
Prif Weithredwr yn cynnal sesiynau herio priodol gyda Phenaethiaid Adran eu mwy
herio'r trefniadau perthnasol. Ychwanegwyd er mwyn bod mor gynhwysol â phosib
nodwyd fod y Prif Weithredwr yn awyddus i’r aelodau Cabinet, Cadeiryddion ac Is
Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu fod yn rhan o’r sesiynau herio er mwyn cael eu
barn cyn llunio ei argymhellion.
Awdur: Dilwyn Williams