Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/10/2018 - Y Cabinet (eitem 12)

12 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DAI, DIWYLLIANT A HAMDDEN pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo i ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden am swm o £157k oherwydd na fydd yr arbedion yn cael ei gyflawni yn 2018-19 gan nad yw Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan Ebrill 1af 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Morwena Edwards ac Iwan Trefor Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo i ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden am swm o £157k oherwydd na fydd yr arbedion yn cael ei gyflawni yn 2018-19 gan nad yw Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan Ebrill 1af 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr holl faterion wedi ei drafod yn y cyfarfodydd perfformiad. Ychwanegwyd mai’r brif elfen wrth edrych ar y maes tai yw'r bwriad o ddod a Strategaeth Tai i’r Cabinet. Ychwanegwyd fod y cynllun yn rhedeg hwyr a gobeithir y bydd yn cael ei drafod yn y misoedd nesaf. Mynegwyd fod angen cael dealltwriaeth glir o anghenion ardaloedd gan sicrhau fod y strategaeth amlinellu’r brif flaenoriaeth ar gyfer y Maes Tai. Cydnabuwyd fod angen edrych yn fanylach yn benodol ar y maes Digartrefedd.

 

Tynnwyd sylw ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth gan bwysleisio fod y Llyfrgell ar ei newydd wedd wedi agor yn Y Bala. Mynegwyd fod ymateb positif wedi bod i’r Llyfrgell newydd. Nodwyd fod Llyfrgelloedd wedi bod yn treialu peiriannau hunanwasanaeth a bod hyn yn rhyddhau amser staff. Mynegwyd fod y gwasanaeth wedi bod yn casglu gwybodaeth am yr ymholiadau maent yn eu cael mewn llyfrgelloedd sydd wedi dangos fod hanner y bobl sydd yn dod i’r Llyfrgelloedd ddim yn dod i fenthyg llyfr. Esboniwyd fod y llyfrgelloedd bellach yn cael ei defnyddio fel ‘siop un stop’ i bob pwrpas.

 

Nodwyd fod caran o blant sydd yn 11 oed sydd wedi cyrraedd safon nofio’r Cwricwlwm yn codi yn flynyddol a bod gwaith arbennig wedi ei gyflawni yn nalgylch Canolfan Bro Dysynni. Ychwanegwyd fod gofyn i’r Cabinet gymeradwyo ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden oherwydd na fyddant yn cael eu cyflawni yn 2018-19 gan nad yw’r Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan Ebrill 2019.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Tynnwyd sylw at y dangosydd nifer o ddyddiau calendr ar gyfartaledd a gymerwyd i roi grant cyfleusterau anabl a nodwyd yn 170 o ddyddiau. Ychwanegwyd fod y nifer o ddyddiau yn rhai hir ac ychwanegwyd fod angen edrych yn fanylach ar y nifer o ddyddiau gan ychwanegu fod yr adran yn awyddus i ddod o hyd i'r ffordd symla o weithio.

-    Trafodwyd niferoedd sydd yn ymweld â’r Llyfrgell gan nodi fod angen adolygu’r ffigwr. Ychwanegwyd fod angen cyd-weithredid a chymunedau lleol i weld parhad i ddarpariaeth y Llyfrgelloedd.

 

 

Awdur: Iwan Trefor Jones a Morwena Edwards