12 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DAI, DIWYLLIANT A HAMDDEN PDF 171 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad.
Cymeradwyo i ail-broffilio
arbedion cyfleusterau hamdden am swm o £157k oherwydd na fydd yr arbedion yn
cael ei gyflawni yn 2018-19 gan nad yw Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan
Ebrill 1af 2019.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Morwena Edwards ac Iwan
Trefor Jones
PENDERFYNIAD
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
Cymeradwyo i ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden am
swm o £157k oherwydd na fydd yr arbedion yn cael ei gyflawni yn 2018-19 gan nad
yw Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan Ebrill 1af 2019.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr holl
faterion wedi ei drafod yn y cyfarfodydd perfformiad. Ychwanegwyd mai’r brif
elfen wrth edrych ar y maes tai yw'r bwriad o ddod a Strategaeth Tai i’r
Cabinet. Ychwanegwyd fod y cynllun yn rhedeg hwyr a gobeithir y bydd yn cael ei
drafod yn y misoedd nesaf. Mynegwyd fod angen cael dealltwriaeth glir o
anghenion ardaloedd gan sicrhau fod y strategaeth amlinellu’r brif flaenoriaeth
ar gyfer y Maes Tai. Cydnabuwyd fod angen edrych yn fanylach yn benodol ar y
maes Digartrefedd.
Tynnwyd sylw ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a
Gwybodaeth gan bwysleisio fod y Llyfrgell ar ei newydd wedd wedi agor yn Y
Bala. Mynegwyd fod ymateb positif wedi bod i’r Llyfrgell newydd. Nodwyd fod
Llyfrgelloedd wedi bod yn treialu peiriannau hunanwasanaeth a bod hyn yn
rhyddhau amser staff. Mynegwyd fod y gwasanaeth wedi bod yn casglu gwybodaeth
am yr ymholiadau maent yn eu cael mewn llyfrgelloedd sydd wedi dangos fod
hanner y bobl sydd yn dod i’r Llyfrgelloedd ddim yn dod i fenthyg llyfr.
Esboniwyd fod y llyfrgelloedd bellach yn cael ei defnyddio fel ‘siop un stop’ i
bob pwrpas.
Nodwyd fod caran o blant sydd yn 11 oed sydd
wedi cyrraedd safon nofio’r Cwricwlwm yn codi yn flynyddol a bod gwaith
arbennig wedi ei gyflawni yn nalgylch Canolfan Bro Dysynni. Ychwanegwyd fod
gofyn i’r Cabinet gymeradwyo ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden
oherwydd na fyddant yn cael eu cyflawni yn 2018-19 gan nad yw’r Cwmni Byw’n
Iach yn weithredol tan Ebrill 2019.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
- Tynnwyd sylw at y dangosydd nifer o ddyddiau
calendr ar gyfartaledd a gymerwyd i roi grant cyfleusterau anabl a nodwyd yn
170 o ddyddiau. Ychwanegwyd fod y nifer o ddyddiau yn rhai hir ac ychwanegwyd
fod angen edrych yn fanylach ar y nifer o ddyddiau gan ychwanegu fod yr adran
yn awyddus i ddod o hyd i'r ffordd symla o weithio.
- Trafodwyd niferoedd sydd yn ymweld â’r
Llyfrgell gan nodi fod angen adolygu’r ffigwr. Ychwanegwyd fod angen
cyd-weithredid a chymunedau lleol i weld parhad i ddarpariaeth y Llyfrgelloedd.
Awdur: Iwan Trefor Jones a Morwena Edwards