Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/10/2018 - Y Cabinet (eitem 11)

11 ADRODDIAD PERFFORIMAD AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 107 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr holl faterion eisoes wedi bod yn destun trafodaeth ac wedi ei graffu mewn cyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran. Ychwanegwyd fod yr adran wedi cychwyn gweithredu Cynllun y Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at y sefyllfa ariannol gan nodi fod llithriad mewn gweithredu’r cynllun codi ffi ar gyfer gofal cyn amser cychwyn brecwast am ddim 2017/18 a rhagwelir cyflawni’r targed incwm ffi gofal yn llawn erbyn 2018/19. Ychwanegwyd fod £3,738,010 wedi ei wireddu o’r cynllun ‘Arbedion Effeithiolrwydd Ysgolion o’r £4.3m. Ategwyd fod y Cabinet eisoes wedi cytuno i ohirio gweithredu arbediad Ysgolion Uwchradd o £298,990 o’r flwyddyn gyllidol 2017/18 i 2019/20. Ychwanegwyd fod yr ysgolion yn gwbl ymwybodol o amseriad diwygiedig y toriad.

 

Nodwyd fod y Maes Cludiant yn un cymhleth, gan fod yr adran yn parhau i orwario yn y maes. Nodwyd fod amrywiol resymau pam fod plant yn cael cludiant i’r ysgolion ac ychwanegwyd eu bod yn rhesymau teilwng. Mynegwyd fod yr adran wedi comisiynu gwaith i roi sylw manwl i’r gorwariant ac mae argymhellion cychwynnol mewn lle a chamau gweithredu. Ategwyd fod gwaith ychwanegol angen ei wneud ac edrych yn drawsadrannol ar y ddarpariaeth o gludiant.

 

Trafodwyd canlyniadau'r Haf a nodwyd fod gostyngiad cenedlaethol yng nghanlyniadau’r cyfnod sylfaen. Ychwanegwyd fod Cyfnod Allweddol 2 a 3 a pherfformiad da ar y cyfan. Er hyn, nodwyd fod newidiadau sylweddol i batrwm a chanlyniadau TGAU Saesneg gyda gostyngiad o 12.1%. Mae hyn o ganlyniad i newidiadau i’r ffin marciau o 20 marc. Ychwanegwyd fod trafodaethau wedi bod gyda Chymwysterau Cymru am y mater.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth

-    Trafodwyd canlyniadau TGAU Saesneg - gan nodi fod holl benaethiaid Gwynedd, Awdurdodau Cymru a GwE wedi cysylltu â Chymwysterau Cymru am y mater. Ychwanegwyd fod ymatebiad wedi ei dderbyn sydd yn nodi nad oedd yr 20 marc o wahaniaeth yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl ifanc. Ychwanegwyd y bydd y mater yn mynd ymhellach at Lywodraeth Cymru, gan nodi fod y sefyllfa yn un annheg ac anffodus sydd yn ei gwneud yn anodd i ysgolion a'r adran i gymharu un flwyddyn i’r llall.

-    Tynnwyd sylw ar y ffaith nad yw cynnig presennol ar gyfer datblygu arweinyddiaeth yn addas i bwrpas gan ategu fod yr adran yn gweithio gyda GwE er mwyn datblygu cynllun hyfforddiant. Ychwanegwyd fod llawer o’r swyddi arweiniol o fewn ysgolion yn rhai newydd o fewn y 10 mlynedd diwethaf.

-    Tynnwyd sylw at Ysgol Tywyn a enillodd Wobr Daily Post ar gyfer Ysgol Orau yn y Gymuned a’r ganmoliaeth sydd wedi ei wneud i’r ethos o gynyddu’r defnydd o Gymraeg o fewn yr ysgol.

-        Gwaith yn parhau i annog ysgolion i chwifio'r Faner Genedlaethol tu allan i’r ysgolion.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones