15 TROSOLWG ARBEDION 2018/19 - ADRODDIAD CYNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 199 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at
wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at
wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod 95%,
sef £23m o’r £24m ar gyfer 2015/16 - 2017/18 bellach wedi ei gwireddu.
Ychwanegwyd fod ychydig o lithriad ar rai o’r cynlluniau gyda nifer ohonynt o’r
adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ble mae her o wireddu rhai cynlluniau yn
parhau. Nodwyd yn ogystal fod rhai llithriadau gan yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol, bu i’r Cabinet ar 11 Medi
2018 gymeradwyo rhai cynlluniau amgen a gohirio gweithredu ar y cynllun
Canolfannau Amgylchu,
Mynegwyd wrth edrych ar gynlluniau adrannol
am 2018/19, nodwyd o’r 26 o gynlluniau fod 11 eisoes wedi eu gwireddu yn llawn
neu’n rhannol, ac yn galonogol dim ond dau gynllun a ragwelir yn llithro.
Ategwyd ar y cynlluniau a fydd yn llithro cynllun Dechrau i’r Diwedd a Chynllun
Hamdden. Ychwanegwyd o ran weddill y cynlluniau fod y rhagolygon o wireddu yn
gyffredinol addawol.
Diolchwyd i staff am eu gwaith caled yn dod
o hyd i arbedion, gan ychwanegu fod yr adrannau wedi perchnogi’r cynlluniau
arbedion. Trafodwyd y sefyllfa ariannol Awdurdodau Lleol eraill gan nodi fod
gan Wynedd le i ymfalchïo yn eu hymdrech i ddod o hyd i arbedion.
Awdur: Dafydd L Edwards