13 CYLLIDEB REFENIW 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 77 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
- Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2018
o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
- Gofyn i’r Aelodau Cabinet ar gyfer gwasanaethau
Plant, Addysg a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol sicrhau fod yna gynllun gweithredu
clir gan yr adrannau i gymryd camau i leihau’r diffyg ariannol ac i drafod y
cynlluniau hynny gyda mi er mwyn cael hyder eu bod yn rhesymol.
- Digolledu’r Adran Economi a Chymuned £40k sef y
golled incwm yn dilyn cau pwll nofio Arfon dros yr haf.
- Cynaeafu (£1,904) o’r tanwariant net ar gyllidebau
Corfforaethol, gyda (£40k) i’w defnyddio i ddigolledu’r Adran Economi a
Chymuned am y golled incwm tra bu Pwll Nofio Arfon ar gau. Gyda’r gweddill sef
(£1,864) i’w drosglwyddo i Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i
gynorthwyo gyda phwysau anochel un tro ar gyllidebau’r Cyngor.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNIAD
. Derbyn yr
adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2018 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
- Gofyn i’r
Aelodau Cabinet ar gyfer gwasanaethau Plant, Addysg a Phriffyrdd a
Bwrdeistrefol sicrhau fod yna gynllun gweithredu clir gan yr adrannau i gymryd
camau i leihau’r diffyg ariannol ac i drafod y cynlluniau hynny gyda mi er mwyn
cael hyder eu bod yn rhesymol.
- Digolledu’r
Adran Economi a Chymuned £40k sef y golled incwm yn dilyn cau pwll nofio Arfon
dros yr haf.
- Cynaeafu
(£1,904) o’r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol, gyda (£40k) i’w
defnyddio i ddigolledu’r Adran Economi a Chymuned am y golled incwm tra bu Pwll
Nofio Arfon ar gau. Gyda’r gweddill sef (£1,864) i’w drosglwyddo i Gronfa
Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un tro ar
gyllidebau’r Cyngor.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw'r Cyngor
ynghyd a rhagolygon ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol. Ychwanegwyd ers 2015
fod y Cyngor wedi cael cyfnod heriol gydag arbedion o £27miliwn yn ystod y
cyfnod.
Ategwyd fod y cyllidebau diwedd Awst yn
dangos darlun cymysg gyda rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau.
Ychwanegwyd fod y rhagolygon yn nodi erbyn diwedd Mawrth y bydd 5 adran yn
gorwario a 5 adran yn tanwario. O ganlyniad i orwariant, nodwyd y bydd angen i
rai adrannau gynnig camau gweithredu pendant er mwyn sicrhau rheolaeth o’u
cyllidebau erbyn 31 Mawrth 2019, sef Adran Addysg, Plant a Chefnogi Teuluoedd,
a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd fod yr aelod Cabinet dros yr adran Addysg
wedi nodi ei sylwadau am y tan wariant yn yr adroddiad perfformiad.
Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Blant a
Theuluoedd fod cyllideb yr adran yn un hynod heriol. Ychwanegwyd nad yw’r gyllideb
ddim yn ymarferol yn benodol wrth edrych ar achosion dwys a chymhleth,.
Ymhelaethwyd gan nodi fod gorwariant yn yr adran Blant yn broblem Genedlaethol
a Rhanbarthol. Mynegwyd fod yr adran yn ceisio dod o hyd i ateb ac y bydd
adroddiad mawl yn cael ei baratoi i wynebu'r heriau er mwyn symud ymlaen.
Nododd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a
Bwrdeistrefol fod cynnydd wedi bod mewn costau gweithredol a bod gorwariant
cysylltiedig â salwch yn parhau i beri problemau. Ychwanegwyd fod yr adran wedi
cymryd camau i geisio datrysiad ond fod gwaith pellach i’w wneud. Ychwanegwyd
fod colled incwm wedi bod ar yr ochor gwastraff masnachol o ganlyniad i
gystadleuaeth allanol a busnesau yn cau. Nododd ei fod yn gobeithio fod modd
gweithredu o fewn y gyllideb bresennol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Awdur: Dafydd L Edwards