Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu Strategaeth Gogledd Cymru ar
gyfer Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn
ffurfiol fel un o’r awdurdodau cyfrifol a ddynodwyd dan ddeddfwriaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNIAD
Mabwysiadu Strategaeth Gogledd Cymru ar gyfer Trais yn Erbyn Merched,
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn ffurfiol fel un o’r awdurdodau
cyfrifol a ddynodwyd dan ddeddfwriaeth.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod y
Ddeddf Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015,
yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth
Ambiwlans Cymru a’r Gwasanaethau Tan ac Achub i weithredu ar y ddeddfwriaeth
hon. Nodwyd fod y Llywodraeth yn ffafrio dull rhanbarthol o ran y gofynion
deddfwriaethol ac felly mae’r strategaeth ar gyfer Gogledd Cymru.
Nodwyd gweledigaeth y strategaeth, sef i
bobl Gogledd Cymru allu byw bywydau diogel, cyfartal, di-drais, mewn cymunedau
heb drais, yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ychwanegwyd
fod natur y ddeddf gan Lywodraeth Cymru yn pwysleisio fod angen i gymdeithas
fod yn ymwybodol o beth sydd yn dderbyniol o fewn cymdeithas.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
- Trafodwyd sut y bydd codi ymwybyddiaeth,
nodwyd fod cynllun gweithredu wedi ei greu sydd yn nodi cynlluniau a
hyfforddiant fydd yn cael ei gynnal a bydd y strategaeth yn cael ei roi ar y
wefan.
Awdur: Catherine Roberts