7 COD GWIRFODDOL ARWYDDION AR OSOD BANGOR PDF 80 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadwyd y Cod
Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth o arwyddion ar osod ym Mangor a dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwyr Gwasanaeth Cynllun a Gwarchod y Cyhoedd i roi trefniadau yn eu
lle ar gyfer gweithredu’r Cod Gwirfoddol.
Bod llwyddiant y
Cod Gwirfoddol yn cael ei fonitro a’i asesu cyn diwedd Mawrth 2020 a’r
casgliadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet cyn Medi 2020.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNWYD
Mabwysiadwyd y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth o arwyddion
ar osod ym Mangor a dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwyr Gwasanaeth Cynllun a
Gwarchod y Cyhoedd i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer gweithredu’r Cod Gwirfoddol.
Bod llwyddiant y Cod Gwirfoddol yn cael ei fonitro a’i asesu
cyn diwedd Mawrth 2020 a’r casgliadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet cyn
Medi 2020.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod
poblogaeth Bangor yn dyblu yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i fyfyrwyr yn symud
i’r ddinas. O ganlyniad i hyn, ychwanegwyd, mae’r nifer o dai ar gael i’w
gosod. Mynegwyd fod trigolion lleol yn teimlo fod yr arwyddion i fyny drwy
gydol y flwyddyn ac o ganlyniad yn cael effaith negyddol difrifol ar ardaloedd
penodol ac effaith negyddol ar ddelwedd y Ddinas a’r Brifysgol fel lle i fyw,
gweithio ac astudio.
Mynegwyd fod ymgyrchoedd lleol wedi ei
chynnal i newid hyn ac yn dilyn gwaith pellach mae’r adran bellach mewn lle i
fabwysiadau Cod i Asiantaethau Tai. Ychwanegwyd nad yw rheoliadau wedi’u
diweddaru ers 1992 ac felly nid ydynt wedi ymateb i’r newidiadau sydd wedi bob
i’r math o lety sydd yn cael ei osod na’r drefn o hysbysebu. Esboniwyd fod
gwaith ymgynghori wedi ei gynnal yn trafod y cod gyda’r asiantaethau sydd wedi
nodi pryd fydd modd hysbysebu, pa strydoedd y bydd y cod yn ei effeithio a ble
fydd modd hysbysebu ar dai. Ychwanegwyd na fydd cost ychwanegol i’r Cyngor o
ganlyniad i’r Cod ond bydd angen monitro’r sefyllfa a bydd yr adran yn dod ag
adroddiad yn nodi’r newidiadau ym mis Medi 2020.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth
- Ychwanegodd yr
Aelod Lleol - fod trigolion yn teimlo yn gryf am yr eitem hon. Nodwyd fod rhai
strydoedd ble mae arwyddion Ar Osod i’w gweld ym mhob tŷ gan ategu ei fod
yn anfon y ddelwedd anghywir o Fangor. Esboniwyd nad yw’r tai ble mae'r
arwyddion i’w gweld gan amlaf yn wag, a bod yr arwyddion yn cael eu defnyddio
fel hysbysebion yn unig. Mynegwyd fod tai sydd a’r arwyddion Ar osod o flaen eu
tai yn ddwywaith fwy tebygol o gael rhywun yn torri i mewn i’w tŷ.
Mynegwyd ei bod yn gobeithio y bydd y
cynllun yn gweithio gan fod Bangor yn hwb economaidd angen sicrhau nad yw’n
edrych fel bod pob tŷ Ar Osod.
- Nodwyd ei fod yn syniad da a bod sut mae’r
adran yn ymdrin â’r broblem yn ffordd lesol. Trafodwyd sut y bydd y cynllun yn
cael ei fonitro, a sut y bydd sicrhau y bydd yr hysbysebion yn rhai dwyieithog.
Ychwanegwyd y bydd monitro yn digwydd gan yr adran.
Awdur: Dafydd Wyn Williams