Mater - cyfarfodydd
Cyfarfod: 14/01/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)
5 Cais Rhif C17/1172/19/LL - Cartref Nyrsio Plas y Bryn, Bontnewydd, Caernarfon PDF 168 KB
Newid defnydd cyn gartref
nyrsio preswyl i greu 4 uned
gwyliau hunan
gynhaliol, codi adeilad ar wahân
i'w defnyddio fel pwll nofio
ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Peter Garlick
Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Newid
defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunangynhaliol, codi
adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau
i'r adeilad presennol
(a) Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25
Mehefin 2018 er mwyn derbyn cadarnhad pellach gan yr asiant ynglŷn â rhai
agweddau penodol o’r cais ynghyd â chynnal ymweliad safle. Nodwyd y cynhaliwyd
ymweliad safle ar 23 Gorffennaf 2018.
Cyfeiriwyd at y niferoedd aros, gan nodi y derbyniwyd
cadarnhad y byddai nifer y gwesteion yn amrywio yn ôl y tymor ond mai’r nifer
tebygol ar un adeg fyddai rhwng 50% a 60% (hyd at 70-mewn nifer) o gyfanswm
niferoedd aros yr adeilad.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd
yn cynnwys cadarnhad gan Wasanaeth Twristiaeth y Cyngor mai prin oedd y math
yma o ddarpariaeth yn sirol.
Nodwyd bod y ffordd i’r safle yn gul a throellog, ond ni
chredir y byddai’r bwriad yn golygu cynnydd a niwed sylweddol amlwg o ran
symudiadau traffig o gymharu â’r defnydd hanesyddol fel cartref nyrsio preswyl,
felly ni chredir fod y bwriad yn annerbyniol o safbwynt gofynion polisïau TRA2
a TRA4 o’r CDLl.
Eglurwyd nad oedd rheolaeth o ddefnydd presennol y safle ac
fe fyddai’r cais hwn yn gwella’r sefyllfa. Nodwyd yn dilyn derbyn sylwadau’r
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd o ran mesurau lliniaru i warchod a hyrwyddo’r
Iaith Gymraeg, argymhellir gosod amod ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr
adroddiad o ran cytuno arwyddion a phecynnau gwybodaeth.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y bwriad yn cydymffurfio
gyda Pholisi TWR2 o’r CDLl;
·
Bod y cynllun busnes a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn dangos y byddai’r elw a fyddai’n deillio o’r
datblygiad yn cynyddu;
·
Bod asesiad trafnidiaeth wedi
ei gyflwyno fel rhan o’r cais;
·
Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth
yn gwrthwynebu’r bwriad;
·
O ystyried defnydd sefydledig
y safle, ni fyddai’r sefyllfa trafnidiaeth yn waeth;
·
Bod y bwriad yn unol â
pholisïau cenedlaethol a lleol.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol
nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr adeilad yn hardd a bod
angen ei ddiogelu rhag dirywiad;
·
Pryder o ran diogelwch ffyrdd
ond gellir rheoli defnydd o’r safle gydag amodau;
·
O ystyried nad oedd preswylwyr
y cartref yn ddefnyddwyr ceir byddai’r symudiadau traffig yn sylweddol uwch.
Cwestiynu os oedd y fynedfa yn ddiogel;
·
Yn ansicr o’r bwriad gyda phryder
ei fod yn or-ddatblygiad. Byddai 4 rhan ar gyfer 120 o unigolion heb lawer o
reolaeth o’r safle. Gyda nifer uwch o unigolion, tua 200, pan gynhelir priodas
ar y safle, ddim yn gweld digon o le eistedd ar gyfer gymaint o bobl.
Mewn ymateb i ymholiad gan aelod o ran safbwynt yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
Cyfarfod: 25/06/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)
6 Cais Rhif: C17/1172/19/LL - Cartref Nyrsio Plas y Bryn, Bontnewydd, Caernarfon PDF 146 KB
Newid defnydd cyn gartref
nyrsio preswyl i greu 4 uned
gwyliau hunan gynaliol, codi adeilad ar wahân
i'w defnyddio fel pwll nofio
ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Peter Garlick
Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Newid
defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunan gynhaliol, codi
adeilad ar wahan i’w ddefnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a
newidiadau i’r adeilad presennol.
(a) Eglurodd y Swyddog Rheolaeth Dablygu yn seiliedig ar bryderon sydd wedi
codi ynghylch y cais, a gofynnwyd i’r Pwyllgor ei ohirio ar gyfer cynnal
ymweliad á’r safle ar ddiwrnod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio.
PENDERFYNWYD: Gohirio’r cais a
chynnal ymweliad á’r safle fel awgrymir uchod.