9 CYNLLUN GWYNEDD 2018-2023 Adnoddau i'r Cynllun 'Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion' PDF 276 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
i.
Ymrwymo £50,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor yn ystod blwyddyn
ariannol 2018-19 er mwyn gwireddu’r Cynllun ‘Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion
i Wynedd’.
ii.
Adolygu cynnydd y weithgaredd ac ymrwymiadau pellach i gefnogi
gweddill oes y Cynllun cyn diwedd 2018.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cais i ymrwymo £50,000 o Gronfa Trawsffurfio’r
Cyngor yn ystod 2018-19 oedd y cais er mwyn gwireddu’r Cynllun ‘Cynyddu budd
Digwyddiadau Mawrion i Wynedd’. O ganlyniad i’r prosiect dros y bum mlynedd
diwethaf nodwyd fod £3.13m o wariant yn uniongyrchol yng Ngwynedd gan drefnwyr
digwyddiadau. Yn ychwanegol at hyn nodwyd fod £163,000 o fuddsoddiad gan
Lywodraeth Cymru i gefnogi digwyddiadau wedi digwydd yn sgil cyfraniad gan
Gyngor Gwynedd, a bod budd economaidd o £24.24m i Wynedd wedi ei gynhyrchu gan
ddigwyddiadau.
Mynegwyd nad yw’n fwriad yn y dyfodol i Gyngor Gwynedd roi ‘grantiau’ i
drefnwyr digwyddiadau ond yn hytrach i gydweithio gyda hwy i fuddsoddi yn eu
digwyddiadau er mwyn cael y deilliannau gorau i’r sir. Nodwyd os na fydd
cyllideb ar gael ar gyfer buddsoddi mewn digwyddiadau, ni fydd modd i’r Cyngor
gydweithio mor effeithlon gyda threfnwyr na dylanwadu cystal er mwyn cynyddu’r
buddion i’r Sir.
Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth
-
Trafodwyd
os oedd yr ardaloedd sydd yn cael buddsoddiad drwy ddigwyddiadau mawrion yn
ymwybodol fod y Cyngor yn buddsoddi. Nodwyd fod presenoldeb y Cyngor i’w gweld
yn y digwyddiadau ac ar holl ddeunydd marchnata’r digwyddiad, ond efallai fod
lle i wella. Nodwyd yn rhan o’r cynllun fod y staff yn ceisio codi proffil y
Cyngor ac annog trefnwyr i wario yn lleol.