Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/04/2018 - Y Cabinet (eitem 8)

8 CYNLLUN GOLEUADAU STRYD pdf eicon PDF 123 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Griffiths

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo ceisio am arian o gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu cynllun i newid gweddill goleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo ceisio am arian o gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu cynllun i newid gweddill goleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn awyddus i geisio cais am fuddsoddiad o £1,398,795 o Gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn newid 7778 o oleuadau stryd i dechnoleg LED. Nodwyd mai benthyciad ariannol yw hwn a fydd i’w ad-dalu yn ddi-log i’r Llywodraeth. Ychwanegwyd fod y cais cyntaf am yr arian wedi ei gymeradwyo, a bod angen sêl bendith y Cabinet cyn symud ymlaen a’r cais.

 

Nodwyd mai dilyniad i’r cynllun 4 blynedd, £1.4m presennol fydd y cynllun yma, a oedd yn cael ei ariannu drwy ddefnydd cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru. Yn rhan o’r prosiect hwn bydd y Cyngor erbyn Medi 2018 wedi newid 10,279 o oleuadau stryd i dechnoleg LED.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd cefnogaeth i’r cynllun, a chafwyd trafodaeth am bris yr allyriadau carbon y bunt o ystyried y gwahaniaethau rhwng yr allyriadau carbon y byddem yn ei arbed i’r dyfodol o’i gymharu a’r gorffennol, a’r arbediad ariannol gymharol o wneud hynny.

 

Awdur: Gwyn Morris Jones