8 CYNLLUN GOLEUADAU STRYD PDF 123 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Griffiths
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo ceisio am arian o gronfa Twf Gwyrdd
Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu cynllun i newid gweddill goleuadau stryd y
Cyngor i dechnoleg LED.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo ceisio am arian o
gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu cynllun i newid gweddill
goleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn
awyddus i geisio cais am fuddsoddiad o £1,398,795 o Gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth
Cymru er mwyn newid 7778 o oleuadau stryd i dechnoleg LED. Nodwyd mai
benthyciad ariannol yw hwn a fydd i’w ad-dalu yn ddi-log i’r Llywodraeth.
Ychwanegwyd fod y cais cyntaf am yr arian wedi ei gymeradwyo, a bod angen sêl
bendith y Cabinet cyn symud ymlaen a’r cais.
Nodwyd mai dilyniad i’r cynllun 4 blynedd, £1.4m presennol fydd y
cynllun yma, a oedd yn cael ei ariannu drwy ddefnydd cronfa Buddsoddi i Arbed
Llywodraeth Cymru. Yn rhan o’r prosiect hwn bydd y Cyngor erbyn Medi 2018 wedi
newid 10,279 o oleuadau stryd i dechnoleg LED.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd
cefnogaeth i’r cynllun, a chafwyd trafodaeth am bris yr allyriadau carbon y
bunt o ystyried y gwahaniaethau rhwng yr allyriadau carbon y byddem yn ei arbed
i’r dyfodol o’i gymharu a’r gorffennol, a’r arbediad ariannol gymharol o wneud
hynny.
Awdur: Gwyn Morris Jones