5 Cais Rhif C17/0967/39/LL - Tir yn Tyn y Cae, Llangian, Pwllheli, Gwynedd PDF 267 KB
Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari
AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Creu safle ar gyfer 12
pabell saffari
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mawrth
2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod.
Tynnwyd sylw at y bwriad ynghyd â’r ystyriaethau a’r
ymatebion i’r ymgynhgoriad cyhoeddus o fewn yr adroddiad, ac ni dderbyniwyd gwybodaeth
hwyr yn yr achos hwn.
O ran asesu’r cais y prif ystyriaeth ydoedd polisi TWR5 o’r
Cynllun Datblygu Lleol sy’n gofyn bod safleoedd gwersylla o ansawdd uchel o ran
dyluniad, gosodiad ac edrychiad, wedi eu lleoli mewn lleoliad anymwthiol ac
wedi eu cuddio yn dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Tynnwyd sylw bod y pebyll o faint sylweddol
ac yn fwy gyda’r llwyfan pren. O’r
ymweliad safle, gwelwyd bod y safle yn agored yng nghefn gwlad ac o fewn tirlun
sensitif yr AHNE. Er bod y cais wedi
cynnig tirlunio ystyrir nad oedd wedi ei guddio yn dda ar hyn o bryd. Ni chytunir hefo’r adroddiad asesiad effaith
weledol a gyflwynwyd gyda’r cais sy’n honni bod effaith y bwriad yn gyfyngedig. Nodwyd bod y safle i’w weld yn glir o’r
ffordd gyfochrog, o’r llwybr cyhoeddus cyfagos ac y byddai golygfeydd o’r
pebyll ar draws yr AHNE. Er nad ydoedd
yn groes i holl ofynion polisi TWR5 nid oedd yn cwrdd â phrif amcan y polisi
sy’n gofyn bod safleoedd yn anymwthiol yn y tirlun. Hefyd, nodwyd bod y bwriad yn groes i bolisi
AMG1 ac fod Swyddog yr AHNE yn bryderus am ymyrraeth y datblygiad ar leoliad
gwledig. Er bod perthynas gyda’r adeilad
rhestredig Gradd II, ni ystyrir y gellir gwrthod ar sail hyn.
Er bod materion trafnidiaeth a bioamrywiaeth yn dderbyniol,
roedd y swyddogion cynllunio yn argymell ei wrthod oherwydd ei fod yn groes i
bolisiau TWR5, PS19 ac AMG1 gan y byddai yn creu nodwedd ymwthiol yn y dirwedd
ac yn cael effaith annerbyniol ar yr AHNE.
(b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), ac fe amlygodd y prif bwyntiau canlynol:
·
Mai pebyll saffari ydoedd
testun y cais a fyddai’n cael eu tynnu lawr ar ddiwedd y tymor gwyliau
·
Tynnwyd sylw bod un i fyny ar
y safle gyda lliw y cynfas yn gweddu i’r cefndir
·
Bod y cais yn fenter newydd
gwahanol
·
Pe edrychir o’r lôn gellir
gweld rhesi o garafanau yn yr AHNE ac y byddai’r pebyll yn gweddu i’r tirlun
·
O safbwynt bioamrywiaeth, bod
yr ymgeisydd wedi mynd i lawer o gostau i dirlunio yn broffesiynol gyda
thyfiant coed a fyddai’n addas i’r ardal
·
Byddai’r tirlunio yn cael ei
wneud yn yr Hydref flwyddyn yma a’r bwriad fyddai rhoi y pebyll saffari i fyny
flwyddyn nesaf
·
Yn sgil yr uchod derbyniodd yr
ymgeisydd ddatganiad o ymarfer da
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
· Ni ellir gweld unrhyw reswm i’w wrthod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
9 Cais Rhif: C17/0967/39/LL - Tir yn Tyn y Cae, Llangian, Pwllheli, Gwynedd, PDF 266 KB
Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari
AELOD LLEOL:
Cynghorydd John Brynmor Hughes
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Creu safle ar
gyfer 12 pabell saffari
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr ynghyd a’r gwrthwynebiad ychwanegol.
a) Ymhelaethodd yr
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar
gyfer sefydlu safle ar gyfer lleoli 12 pabell saffari,12 pod ystafell wlyb gerllaw pob pabell saffari,
creu llwybrau cerdded, ardaloedd barbeciw ac ardal chwarae plant. Nodwyd bod y safle mewn cefn gwlad agored yn ffinio gyda ffordd sirol dosbarth 3 o Llanengan
i Llangian o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn ac oddi
fewn i’r Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.
Amlygwyd
bod Polisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu cynigion am safleoedd
teithiol, gwersylla neu lety wersylla amgen dros dro os cydymffurfir â’r cyfan
o’r meini prawf a nodir yn yr adroddiad. Eglurwyd bod hyn yn cynnwys bod y
datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad;
ei fod wedi ei leoli mewn man anymwthiol sydd wedi ei guddio’n dda gan
nodweddion presennol y dirwedd, a/neu ble gellid cydweddu’r unedau teithiol yn
hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y
dirwedd.
Nodwyd
y byddai’r pebyll wedi eu gosod yn bennaf o amgylch ffiniau’r cae a’r podiau
ystafell wlyb yn cael eu gosod gerllaw pob pabell. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd y
byddai’r pebyll saffari a’u sylfeini ynghyd a’r podiau ystafell wlyb yn cael eu
symud o’r safle y tu allan i’r tymor gweithredu. Yn sgil hyn ystyriwyd y bwriad o dan bolisi
TWR 5 sy’n ymwneud gyda safleoedd carafanau teithiol, gwersylla a llety
gwersylla amgen dros dro.
Tynnwyd
sylw bod yr asesiad effaith weledol a thirwedd wedi cyfeirio at asesiadau
LANDMAP ar yr ardal (yn arbennig yr un gweledol a synhwyraidd) oedd wedi dod
i’r casgliad mai canolig yw gwerth y dirwedd.
Er mai canolig yw gwerth y dirwedd, mynegwyd bod yr asesiad yn nodi bod
y dyffryn yn un gwledig, caeedig bach gyda rhai adeiladau yn lleihau'r atyniad,
yn benodol ar ffurf adeiledig ar gyrion Abersoch. Argymhellion pellach asesiad LANDMAP oedd,
cyfyngu ar ddatblygiadau carafanau o fewn y dyffryn, yn y tymor hir. Yn ychwanegol, fel rhan o’r asesiad effaith weledol a thirwedd a
gyflwynwyd gyda’r cais, cyflwynwyd lluniau yn dangos y safle o nifer o fannau
amrywiol lle byddai’n weledol yn y dirwedd ac ar draws yr AHNE. Dadleuwyd y
byddai’r safle yn parhau yn weladwy o’r mannau yma hyd yn oed pan fydd y
tirlunio y bwriedir yn aeddfedu.
Nid oedd yr Adran Cynllunio wedi eu hargyhoeddi bod y safle yn
cydymffurfio gydag egwyddorion polisi TWR 5. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn
nodwedd ymwthiol yn y dirwedd ac yn achosi niwed sylweddol i ansawdd gweledol y
dirwedd sydd wedi ei ddynodi yn AHNE.
b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Byddai’r safle yn glir
drwy’r gaeaf; pebyll ar y safle yn ystod tymor twristiaeth yn unig
· Bod y safle wedi ei ddylunio gydag effaith gweledol isel mewn golwg, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9