7 AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADAOL GWYNEDD PDF 325 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
ymateb Cyngor Gwynedd i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol
a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018 gyda’r amod ein bod yn cyfhau pwynt 36 yn yr
ymatebiad gan bwysleisio amgylchiadau unigryw y wardiau ym Mangor yn sgil
mewnlifiad sylweddol y myfyrwyr i Ward Garth a Menai.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd ymateb Cyngor Gwynedd i gynigion drafft y
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018 gyda’r amod
ein bod yn cryfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad gan bwysleisio amgylchiadau unigryw
y wardiau ym Mangor yn sgil mewnlifiad sylweddol y myfyrwyr i Ward Garth a
Menai.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr ymatebiad drafft i ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol, wedi ei greu ar sail y cyfarwyddyd clir a roddwyd yn y
Cyngor Llawn. Ychwanegwyd fod y Cyngor wedi penderfynu ymateb i’r cynigion
drafft gan gynnig cynigion amgen yn benodol ar gyfer Gerlan ac Ogwen a
Dolgellau ac i ail ddatgan cynigion y Cyngor.
Esboniwyd fod
gwaith sylweddol wedi ei wneud yn ymgysylltu gyda’r aelodau ac yn benodol
gyda’r Aelodau lleol yn y llefydd hynny ble mae’r aelodau lleol yn ystyried y
byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd
fod yr adroddiad yn cynnig atebion synhwyrol i Gynigion drafft y Comisiwn
Ffiniau. Wrth edrych ar ardal Porthmadog mae’r ffiniau sydd wedi eu cynnig yn
diystyru ffiniau hanesyddol yr hen siroedd sydd wedi codi anfodlonrwydd yn
lleol.
-
Nodwyd fod sylwadau wedi eu derbyn yn nodi fod y Comisiwn wedi
anwybyddu’n llwyr y nifer myfyrwyr fyddai yn ward Garth a Menai y rhan fwyaf
o’r flwyddyn a bod angen cryfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad.
Awdur: Vera Jones