Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/04/2018 - Y Cabinet (eitem 7)

7 AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADAOL GWYNEDD pdf eicon PDF 325 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd ymateb Cyngor Gwynedd i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018 gyda’r amod ein bod yn cyfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad gan bwysleisio amgylchiadau unigryw y wardiau ym Mangor yn sgil mewnlifiad sylweddol y myfyrwyr i Ward Garth a Menai.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd ymateb Cyngor Gwynedd i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018 gyda’r amod ein bod yn cryfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad gan bwysleisio amgylchiadau unigryw y wardiau ym Mangor yn sgil mewnlifiad sylweddol y myfyrwyr i Ward Garth a Menai.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr ymatebiad drafft i ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol, wedi ei greu ar sail y cyfarwyddyd clir a roddwyd yn y Cyngor Llawn. Ychwanegwyd fod y Cyngor wedi penderfynu ymateb i’r cynigion drafft gan gynnig cynigion amgen yn benodol ar gyfer Gerlan ac Ogwen a Dolgellau ac i ail ddatgan cynigion y Cyngor.

 

Esboniwyd fod gwaith sylweddol wedi ei wneud yn ymgysylltu gyda’r aelodau ac yn benodol gyda’r Aelodau lleol yn y llefydd hynny ble mae’r aelodau lleol yn ystyried y byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod yr adroddiad yn cynnig atebion synhwyrol i Gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau. Wrth edrych ar ardal Porthmadog mae’r ffiniau sydd wedi eu cynnig yn diystyru ffiniau hanesyddol yr hen siroedd sydd wedi codi anfodlonrwydd yn lleol.

-        Nodwyd fod sylwadau wedi eu derbyn yn nodi fod y Comisiwn wedi anwybyddu’n llwyr y nifer myfyrwyr fyddai yn ward Garth a Menai y rhan fwyaf o’r flwyddyn a bod angen cryfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad.

 

Awdur: Vera Jones