6 DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH Y BERWYN PDF 391 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gweithredu
ar y cynnig a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2018 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno
Sant ac Ysgol y Berwyn, yn nhref Y Bala ar 31 Awst 2019 a sefydlu Campws Dysgu
3-19, Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, (“Y Campws”), ar safle presennol Ysgol
y Berwyn i agor ar 1 Medi 2019.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Gareth Thomas
PENDERFYNWYD
Gweithredu ar y
cynnig a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2018 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant
ac Ysgol y Berwyn, yn nhref Y Bala ar 31 Awst 2019 a sefydlu Campws Dysgu 3-19,
Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, (“Y Campws”), ar safle presennol Ysgol y
Berwyn i agor ar 1 Medi 2019.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ar 13 Chwefror, bu i’r Cabinet gymeradwyo i’r cynnig i gau
Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn yn 31 Awst 2019 a Sefydlu’r
Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1
Medi 2019. Yn dilyn hyn bu cyfnod o wrthwynebiad a cyhoeddwyd rhybuddion
statudol ar y cynnig i gau’r ysgolion. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad yn
ystod y cyfnod gwrthwynebu.
Ychwanegwyd mai hwn
fydd cam olaf yn y broses o agor y Campws newydd. Nodwyd y byddai Bwrdd
Llywodraethu Cysgodol yn cael ei ffurfio yn dilyn penderfyniad y Cabinet a fydd
yn penodi Pennaeth newydd i’r Campws Dysgu. Esboniwyd y bydd yr adeilad yn
barod fis Medi 2018, bydd cyfnod pontio
ble fydd modd i’r ysgolion ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn yr adeilad
newydd.
Awdur: Garem Jackson