10 CYDNABYDDIAETH ARIANNOL AELODAU ETHOLEDIG PDF 344 KB
Ceisio barn y Pwyllgor ar ddewisiadau gyda chydnabyddiaeth ariannol i Aelodau Etholedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd. Nododd fod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus wrth
ddylanwadu ar Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a gwelwyd
sylwadau’r Cyngor yn cael eu hadlewyrchu yn adroddiad y Panel. Pwysleisiodd nad oedd gan y Cyngor ddewis ond derbyn argymhellion y
Panel, oni bai am gyflog Cadeirydd y Cyngor. ‘Roedd Aelodau’n rhydd i dderbyn
neu wrthod unrhyw gyfran o’r gydnabyddiaeth oedd yn cael ei gynnig iddynt.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:
-
Pryderu
fod Aelodau etholedig yn derbyn cynnydd mewn amgylchiadau ariannol anodd.
-
Croesawu
mai un lefel uwch o gyflog oedd yn bodoli bellach
-
Dylai
Cadeirydd y Cyngor dderbyn y gyfradd uchaf o gyflog dinesig er mwyn adlewyrchu
statws a phrysurdeb rôl y Cadeirydd.
Cynigwyd ac eiliwyd argymell i’r Cyngor y
dylid gosod lefel cyflog dinesig Cadeirydd y Cyngor ar lefel 1 (£24,200), gyda
chyflog is-gadeirydd y Cyngor ar lefel 2 (£16,300)
PENDERFYNWYD:
-
Derbyn yr adroddiad
-
Argymell gosod lefel
cyflog dinesig Cadeirydd y Cyngor ar lefel 1 (£24,200), gyda chyflog
is-gadeirydd y Cyngor ar lefel 2 (£16,300) i’r Cyngor
-
Rhannu sylwadau’r
Pwyllgor gyda’r Cyngor.