Mater - cyfarfodydd
Cyfarfod: 12/04/2018 - Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth (eitem 11)
11 ADRODDIADAU BLYNYDDOL AELODAU PDF 204 KB
Gwybodaeth ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol Aelodau Etholedig ar gyfer 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
- Atodiad A - Canllawiau Adroddiadau Blynyddol Aelodau, eitem 11 PDF 331 KB
- Atodiad B - Templed Adroddiadau Blynyddol, eitem 11 PDF 60 KB
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd gan amlinellu mai pwrpas yr adroddiadau oedd rhoi
cyfle i Aelodau gyfathrebu eu gweithgareddau i’w etholwyr. Byddai canllawiau ar
beth ddylid ei gynnwys yn cael ei gylchredeg gyda thempled oedd wedi ei
gyflwyno i Aelodau’r Pwyllgor. Nododd na chyhoeddwyd
adroddiadau blynyddol ar gyfer 2016/17 oherwydd yr etholiad, ond bod y cyfle yn
cael ei gynnig i Aelodau’r Cyngor eto ar gyfer 2017/18.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:
-
Fod
angen mwy o bwyslais ar waith etholaethol aelodau ar y templed
-
Ei
fod yn fuddiol i Aelodau gadw dyddiadur er mwyn hwyluso’r broses o gynhyrchu
adroddiad ar ddiwedd y flwyddyn.
-
Gwerthfawrogi’r
cyfle i nodi pam fod Aelod yn methu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd neu
ddigwyddiadau
-
Fyddai
unrhyw hyrwyddo ehangach na chyhoeddi’r adroddiadau ar
wefan y Cyngor?
Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd mai dyletswydd statudol i alluogi Aelodau i gyhoeddi’r adroddiadau
oedd mewn lle. Doedd yno ddim gorfodaeth i Aelodau gynhyrchu adroddiadau
blynyddol. Ychwanegodd y byddai’r templed enghreifftiol yn medru cael ei addasu
i gyd-fynd a chynnwys Aelodau unigol, ac na fyddai
unrhyw hyrwyddo pellach.