6 YMHOLIADAU GAN AELODAU PDF 472 KB
Diweddaru’r Pwyllgor o’r datblygiadau ym maes ymateb i
ymholiadau gan Aelodau
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd. Nododd ei fod wedi ymholi yn dilyn sylwadau a wnaethpwyd yng
nghyfarfod y Cyngor ar 14/12/17 ynglŷn â diffyg ymateb gan swyddogion i
negeseuon aelodau etholedig. Bu iddo dderbyn 13 ymateb oedd yn amrywiol eu
natur.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-
-
Fod
y manylion cyswllt ar y Porth Aelodau yn aml ar lefel rhy uchel o gymharu â
natur yr ymholiad.
-
Fod
sefydliadau eraill megis Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn defnyddio un pwynt cyswllt ar gyfer aelodau.
-
Fod
defnyddio Galw Gwynedd yn medru bod yn flinderus, yn enwedig wrth geisio
cyfathrebu gyda rhai Gwasanaethau penodol.
-
Fod
y protocol yn nodi y dylid ymateb o fewn 5 diwrnod. Tra bod hynny yn fuddiol,
nid oedd yn gwahaniaethu rhwng materion brys a materion eraill.
-
Byddai
cydnabyddiaeth o dderbyn e-bost yn fuddiol, gan y byddai’n rhoi sicrwydd fod yr
ymholiad wedi ei dderbyn.
Diolchodd y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd am y sylwadau,