Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/04/2018 - Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth (eitem 5)

5 DARPARIAETH DECHNEGOL pdf eicon PDF 324 KB

Ystyried y ffordd ymlaen ar gyfer darpariaeth technegol i Aelodau

Cofnod:

Porth Aelodau

Cyflwynodd y Cynghorydd Annwen Hughes waith yr is-grŵp ar y Porth Aelodau. Nododd fod gwaith ailstrwythuro wedi ei wneud er mwyn gwella hygyrchedd y wybodaeth oedd yno. Ychwanegodd y byddai ymdrechion i gynyddu defnydd yn parhau, yn ogystal ag ymdrechion i gywain gwybodaeth fyddai o ddefnydd i aelodau.

 

Office 365

Derbyniwyd cyflwyniad byr gan y Cynghorydd Annwen Hughes, oedd yn aelod o’r Is-Grŵp o’r Pwyllgor hwn a ffurfiwyd i drafod materion TG aelodau etholedig. Nododd fod rhai aelodau wedi treialu darpariaeth trwy system Office 365 gyda darpariaeth cwmwl. ‘Roedd y ddarpariaeth wedi datrys nifer o’r problemau technegol oedd yn llesteirio gwaith aelodau, ac fe’i hategwyd gan yr aelodau eraill oedd yn rhan o’r is-grŵp.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth fod cost ychwanegol oedd oddeutu £9 y pen i’r system petai’n cael ei lledaenu ymysg yr holl aelodau. Mewn ymateb i gwestiwn am ddiogelwch data nododd fod y Cyngor yn dal achrediadau gan y PSN a’r CSG ar gyfer diogelwch data llywodraeth, ac na fyddai’r Cyngor byth yn cyfaddawdu ar ddiogelwch data.

 

Wrth drafod lledaenu’r ddarpariaeth newydd ymysg aelodau’r Cyngor nodwyd fod angen sicrhau fod cymorth effeithiol ar gael i aelodau nad oedd yn hyderus wrth ddefnyddio’r ddarpariaeth newydd. Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth y byddai’r gwasanaeth yn rhoi’r cymorth technegol angenrheidiol i’r holl ddefnyddwyr, yn ogystal â chynorthwyo wrth osod y system newydd a rhannu gwybodaeth ddefnyddiol.

 

Mewn ymateb i awgrym y dylid lledaenu’r system allan i’r holl aelodau yn syth, nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y dylid pwyllo, er bod y gwasanaeth TG yn barod i wneud hynny. Ychwanegodd fod gwersi wedi eu dysgu o geisio gweithredu’n rhy gyflym yn y gorffennol.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i ehangu darpariaeth Office 365 i weddill aelodau’r Pwyllgor hwn i ddechrau.

 

PENDERFYNWYD –

1.      Fod darpariaeth Office 365 yn cael ei gynnig i Aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

2.      Fod y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn rheoli rhaglen lledaenu’r ddarpariaeth ymhellach, yn ddibynnol ar ddatrys unrhyw broblemau fyddai’n codi

3.      Fod unrhyw wersi a gwybodaeth ddefnyddiol a fyddai’n cael ei gasglu wrth osod y ddarpariaeth yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau wrth fynd ymlaen.